Bwydo ŵyn yn Humble by Nature

Crafu afalau yn barod i wneud sudd ym Mherllan Gymunedol Ross-on-Wy

 

Yn 2023 rhedodd Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy gynllun grantiau cymunedol a oedd ar agor i sefydliadau trydydd sector, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol sy’n cyfrannu at fudiad bwyd da Sir Fynwy. Yn y gyfres hon o erthyglau rydym yn ymweld â rhai o’r ymgeiswyr llwyddiannus er mwyn clywed am sut y bu iddynt ddefnyddio eu grantiau a’r hyn sy’n digwydd nawr. Heddiw rydym yma gyda’r prosiect Building Bridges a redir ar draws Sir Fynwy.

Mae Building Bridges yn darparu gweithgareddau, hwyl, cyfeillgarwch a phrofiadau sy’n ymwneud â gwaith i bobl ifanc rhwng 14 a 25 sydd ag anghenion ychwanegol oed. Maent yn cefnogi ac yn annog eu pobl ifanc i gymryd rhan yn eu cymunedau lleol, ehangu eu rhwydweithiau cymdeithasol, gwneud ffrindiau, magu hyder a dysgu sgiliau cymdeithasol er mwyn hybu eu hannibyniaeth. Yn gryno: byw’r math o fywyd y mae llawer ohonom yn ddigon ffodus i’w gymryd yn ganiataol. Gwnaeth y tîm Building Bridges gais am gyllid i gefnogi menter newydd ar gyfer y Fenni a Threfynwy: Nourishing Diversity.

Mae Nourishing Diversity yn darparu sesiynau a gweithdai hwyliog a rhyngweithiol ar goginio, maeth, a chadw bwyd. Roedd nifer ohonynt yn cael eu rhedeg gan wraig arbennig iawn o’r enw Lindy Wildsmith: gwirfoddolwr arweiniol, cynllunydd sesiynau, cydlynydd teithiau ac eiriolwr diflino dros ‘food citizenship’ — siopa, coginio, a bwyta mewn modd ystyriol gyda pharch at y cynhwysion a’r bobl sy’n eu cynhyrchu a’u gwerthu. Ystyriodd Lindy a’r tîm Nourishing Diversity ehangach bob agwedd ar y system fwyd: o sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, i ble rydym yn ei brynu, sut i’w baratoi a’i goginio, y sgiliau cymdeithasol er mwyn mwynhau bwyta mewn cwmni, a phwysigrwydd gwastraffu cyn lleied â phosibl. Mewn cyfres o sesiynau Coginio Cymdeithasol buont yn gweithio gyda The Cookalong Clwb i ddarparu sesiynau coginio ar-lein a wyneb yn wyneb a oedd yn rhoi sylw i ffefrynnau cartref megis peli cig, pryd troi-ffrio, cyri, cawl, caws macaroni, a phastai bugeiliaid. Er eu bod yn swnio fel prydau dydd i ddydd yr ydym i gyd yn eu hadnabod a’u caru, doedd rhai o’r bobl ifanc yn y sesiynau erioed wedi eu blasu o’r blaen, a phrin yr oedd neb wedi eu gwneud eu hunain. Erbyn hyn maent i gyd yn gwybod sut i baratoi pryd maethlon, cynnes – a dyma’n union sydd ei angen arnoch os ydych yn ystyried gadael cartref a dysgu gofalu amdanoch eich hun yn y byd. Ar ddiwedd y gyfres o sesiynau daeth pawb at ei gilydd i goginio a rhannu pryd i ddathlu, gan ddangos eu sgiliau newydd a mwynhau amser gyda ffrindiau newydd.

Ochr yn ochr â’r dosbarthiadau coginio, cafwyd nifer o deithiau. Aeth Nourishng Diversity i siopa yn Waitrose yn y Fenni a Threfynwy, a chawsant gyfle arbennig i weld cigyddion wrth eu gwaith a dysgu sut y mae’r archfarchnad yn cael gafael ar eu cig. Mae hyn yn codi pwynt diddorol: yng nghanol sgwrs am fwyd lleol a chefnogi busnesau annibynnol, rydym weithiau’n anghofio bod y cynnyrch Prydeinig mewn archfarchnadoedd hefyd yn dod o ffermydd teuluol yr ydym yn gyrru ac yn cerdded heibio iddynt bob dydd. Ble bynnag yr ydych chi’n siopa, mae prynu cynnyrch o Brydain yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. A thu hwnt i giât y fferm, mae galwedigaethau fel cigyddiaeth, pobi, a godri yn broffesiynau sy’n gofyn am sgiliau ac mae dybryd angen gweithwyr a hyfforddai ymroddedig o fewn y proffesiynau hyn. Felly gwych o beth yw bod y bobl ifanc hyn wedi cael cip olwg ar grefft cigyddiaeth a gweld bod cyfleoedd o ran swyddi yng nghefn gwlad ar gael o fewn y diwydiant bwyd. Roedd y teithiau eraill yn cynnwys dwy daith i berllan gymunedol Ross-on-Wye, lle cafodd y bobl ifanc roi cynnig ar wneud sudd yn yr hydref a choginio yn yr awyr agored yn y gwanwyn… yn union fel ein hynafiaid; yna cafwyd taith i Farchnad Nos y Fenni, a chafwyd cyfleoedd i flasu llu o fwydydd anarferol. I rai o’r bobl ifanc sy’n rhan o Building Bridges, gall amgylcheddau prysur a phrofiadau synhwyraidd anghyfarwydd eu llethu – gallant fod yn fygythiol hyd yn oed – felly roedd pawb yn falch iawn ohonynt am fod yn ddewr a mynd draw i sgwrsio gyda’r gwerthwyr ar y stondinau a blasu pethau newydd. Aeth y prosiect hefyd i Humble by Nature, ble cafodd y bobl ifanc eu tywys gan y Ffermwr Tim o amgylch y fferm a’u cyflwyno i’r anifeiliaid — profiad arall newydd iawn i nifer o’r bobl ifanc, ond profiad â ddaeth a gwên i sawl wyneb.

Drwy gydol y prosiect roedd ffocws ar gynaliadwyedd: pan fydd rhywun yn gwybod mwy am darddiad bwyd, ac wedi gweithio’n galed i siopa amdano, i’w baratoi ac i’w goginio, maent yn llai tebygol o’i wastraffu! Gweithiodd y sesiynau coginio yn agos gydag Oergell Gymunedol Trefynwy er mwyn cyflwyno’r bobl ifanc i’r ffynhonnell hon o fwyd ffres cost isel, a’u dysgu i addasu eu ryseitiau i gyd-fynd â’r hyn oedd ar gael ar y diwrnod. Mae hyn yn rhan allweddol o fwyta tymhorol a’r pleser sy’n deillio o siopa bwyd. Mae’r cyffro hwnnw o gyrraedd y siop a dod o hyd i’r ffa Prydeinig cyntaf neu ddarganfod bod afalau wedi dod i mewn, a newid eich cynllun pryd bwyd er mwyn eu ffitio i mewn heb wastraffu dim arall.

Mae’r neges o ran gwastraff bwyd wir wedi gadael ei hôl ar y bobl ifanc. Mae un dyn ifanc bellach yn mynd â blwch Tupperware i bobman y mae’n mynd, rhag ofn y bydd cyfle i arbed rhywfaint o fwyd dros ben. Efallai y bydd hynny’n gwneud i chi wenu, ond efallai y dylai pawb wneud hyn: pa mor aml ydych chi wedi gweld bwyd yn cael ei wastraffu mewn bwffe? Mae pawb wedi dysgu cario bagiau siopa a photeli dŵr o gwmpas gyda ni – beth am ychwanegu blwch Tupperware neu ddeunydd lapio bwyd hefyd?

Wrth siarad â staff Building Bridges, y straeon personol sydd wir yn dod â’u gwaith yn fyw: nid yn unig y llanc sy’n daer yn erbyn gwastraffu bwyd, ond hefyd yr un sydd am y tro cyntaf wedi cronni digon o hyder i drin cyllell goginio, neu’r wraig ifanc a ddechreuodd goginio ar-lein ac yn raddol magu’r hyder i sgwrsio â chyfranogwyr eraill ar y grŵp WhatsApp ac yna mentro allan i sesiynau wyneb yn wyneb. Mae gan Building Bridges lu o hanesion am fuddugoliaethau personol o’r fath, sy’n dechrau’n fach ac yn tyfu’n rhywbeth llawer mwy: annibyniaeth i’r bobl ifanc hyn, ymdeimlad o hunan-werth, a bywyd sy’n cael ei fyw’n dda a’i faethu’n dda trwy bleser cysylltiadau personol a bwyd da.