Dychmygwch eistedd wrth fwrdd hir, gyferbyn â wynebau cyfeillgar, dieithr, yn aros am bryd o fwyd sy’n costio cymaint ag y teimlwch yr hoffech chi dalu amdano. Mae dau gwrs, wedi’u paratoi a’u coginio gan wirfoddolwyr. Mae’r pryd yn llysieuol ac mae’r cynhwysion yn dod o ffynonellau lleol (darperir ar gyfer gofynion dietegol eraill). Mae symlrwydd hyn yn cael gwared ar rwystrau rhwng pobl ac mae’r ystafell yn llawn pobl yn sgwrsio. Rydych chi’n darganfod sut y gwnaeth y cwpl nesaf gwrdd, rydych chi’n cael argymhellion ar gyfer lleoedd lleol y byddai gennych chi ddiddordeb ymweld â nhw, mae’r person gyferbyn yn cynnig rhannu potel gyda chi.

Dyna sut brofiad yw mynd i’r Ffreutur Cymunedol yn y Fenni. Mae’r Ffreutur yn un model ar gyfer rhannu prydau lleol sydd wedi bod yn cael ei gynnal ers dros 10 mlynedd. Mae pryd dau gwrs a baratoir ar gyfer y gymuned gan y gymuned yn cael ei weini bob yn ail fis. Mae prydau bwyd yn cael eu creu o gynnyrch lleol, gan gyflenwyr fel Paul’s Organic, La Mediterranea, a Pherllan Gymunedol y Fenni.

Yr hyn sy’n gwneud i’r model weithio gyda Ffreutur y Fenni, yr hyn sy’n cadw’r ciniawyr a’r gwirfoddolwyr i ddod yn ôl mewn gwirionedd, yw’r ymdeimlad o bwrpas a rennir. Fe allech chi alw hyn yn galon y pryd. Mae’n ymddangos mewn sawl gweithred gyfunol wahanol.

Mae’r rhai sy’n mynychu Ffreutur y Fenni yn rheolaidd yn cymryd eu tro i goginio prydau o’u dyluniad eu hunain a’u gweini ar y noson. Cydlynir hyn gan bwyllgor cynllunio. Mae yna adloniant hefyd a ddarperir gan bobl leol a rhywfaint o rannu gwybodaeth. Ym mis Tachwedd, y thema oedd iechyd meddwl. Daeth tyrfa egnïol a brwdfrydedd i gwrdd â storïwr  lleol a chynrychiolydd o Mind Sir Fynwy.

Efallai yn bwysicaf oll yw bod y Ffreutur yn cefnogi bywoliaeth cymuned fwyd y Fenni drwy roi arian yn ôl i’w heconomi leol. Mae hefyd yn codi arian i elusennau: mae £33,000 wedi’i gasglu ers y pryd o fwyd cyntaf. Mae’r sawl sy’n dod i fwyta yn bwydo eu hunain tra’n helpu cymaint o bobl eraill. Mae’n teimlo’n arbennig o ystyrlon i fwyta yn y Ffreutur.

Mae yna lu o ddigwyddiadau bwyta cymunedol yn Sir Fynwy. Yn ogystal â’r Ffreutur, mae’r Fenni’n cael cinio dau gwrs wythnosol yn y ganolfan gymunedol ar Ffordd Merthyr, a hynny’n gyfnewid am gyfraniad; yng Ngilwern mae Caffi Roots yn gweini cacennau a diodydd ar ddydd Mawrth ac yn caniatáu pobl i dalu’r swm y maent yn dymuno; ac yn Rogiet, mae gan Gyffordd Gymunedol Rogiet gaffi cymunedol bob dydd Mercher.

Er bod gan bob grŵp o wirfoddolwyr fodel gwahanol ar gyfer bwyta yn y gymuned, mae gan bob un ddiben cymdeithasol sy’n ymestyn y tu hwnt i fwyd. Ar gyfer elusen Cyffordd Gymunedol Rogiet, mae eu caffi wedi’i gynllunio i ddod â phobl at ei gilydd a chreu rhwydweithiau cymdeithasol mewn pentref nad oes ganddo bellach unrhyw fannau cyfarfod cymdeithasol eraill. Mae’r elusen ar hyn o bryd yn codi arian i roi safle parhaol i’r caffi, fydd hefyd yn cynnwys siop gymunedol.

Mae caffis cymunedol eraill yn fwy rheolaidd, gyda modelau busnes sy’n cynnwys llogi staff. Mae gan rai caffis masnachol amcanion cymdeithasol. Ond mae’r digwyddiad yma’n sy’n dod â phobl at ei gilydd am gyfnod o bryd o fwyd yn unig yn gyfle heb ei ail. Mae’r hyn sy’n digwydd i fyny i’r bobl sy’n dod draw, ysbryd y grŵp, ac wrth gwrs eu harchwaeth.