Scott Millar

Mae gan ffermwyr rôl arbennig mewn cymdeithas: i feithrin y tir er mwyn tyfu bwyd i gynnal a meithrin y boblogaeth. Fodd bynnag, mae pob ffermwr, o dyfwyr llysiau i’r rhai sy’n cynhyrchu cig, wyau a llaeth, yn gweithio o fewn system sydd yn hanesyddol wedi blaenoriaethu allbynnau dros bobl a’r amgylchedd ac mae hyn yn arafu eu hymateb i’r argyfyngau hinsawdd a natur.
Mae Scott Millar, tyddynnwr gyda 25 o ddefaid a 25 erw yn Sir Fynwy, yn bendant am hyn:
“Mae ffermwyr yn caru byd natur, nid ydynt am greu dinistr amgylcheddol. Maent yn ymdrechu’n galed iawn i weithio o dan lawer o gyfyngiadau.”
Un cyfyngiad allweddol i Scott yw pan fydd ffermwr yn dechrau creu cynnyrch 18 mis cyn ei werthu, nid oes ganddo unrhyw reolaeth dros yr hyn y bydd yn cael ei dalu amdano. Heb os, mae’r aros hir i ddarganfod effaith unrhyw newidiadau i arferion amaethyddol yn un llawn tyndra.
Yn Sir Fynwy, mae ffermwyr eisiau ffordd ymarferol er mwyn symud ymlaen. Maent yn dod at ei gilydd i rannu gwybodaeth a dod o hyd i ffyrdd o gyflawni eu cyfrifoldebau i’r wlad. Mae Square Farm Ryan Whittall yn un safle sy’n cael cymorth drwy gynllun mentora: “Yn Square Farm, mae fy Nhad a minnau’n chwilio’n gyson am ffyrdd o wella a datblygu’r tir yr ydym yn gweithio arno. Yr ethos sydd gennyf fel ffermwr trydedd genhedlaeth, yw mai dim ond ceidwad y tir ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol ydw i.”
Mae Ben Taylor Davies, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Regen Ben, yn darparu mentora i ffermwyr yn Sir Fynwy a ledled y byd. Mae’n tynnu sylw at y ffaith bod gweithio gyda byd natur hefyd o fudd i fusnesau ffermwyr:
“Pan ydych chi’n gweithio ym Myd Natur mewn gwirionedd, mae’n faddeugar iawn. A phan fyddwch chi’n gweithio gyda’ch gilydd mae’n eithaf hawdd a phroffidiol. Ers ffermio gyda’r amgylchedd, mae dyled gynyddol fy fferm wedi’i gwrthdroi ac mae hynny’n rhywbeth sy’n hynod bwysig i mi, ac i ddyfodol fy fferm.”
Yn y gorffennol, mae arferion sy’n gwella iechyd y pridd yn ystod y broses o gynhyrchu bwyd wedi’u hystyried yn ormod o amser i gyflawni ar raddfa. Fodd bynnag, mae arferion prif ffrwd fel aredig dwfn, defnyddio plaladdwyr, plannu un cnwd a gosod gwrtaith artiffisial yn llythrennol yn dod ar draul y ddaear. Mae iechyd y pridd yn dirywio ac mae dadelfeniad deunydd organig yn arwain at fwy o garbon yn mynd i mewn i’n hatmosffer, gan gyfrannu at newid hinsawdd.
Mae ffermwyr bellach yn cofleidio dulliau o wella iechyd y pridd. I Scott Millar, fel llawer o ffermwyr, mae’n ymwneud â chwestiynu tybiaethau o fewn y sector: “Dechreuais siarad â mwy o ffermwyr a oedd yn ffermio mewn ffyrdd sy’n gyfeillgar i natur a’n adfywiol. Sylweddolais mai’r unig reswm oedd gen i dros wneud hanner y pethau rwy’n eu gwneud oedd y ffaith mai dyna’n draddodiadol yr ydych chi wedi cael eich dysgu i’w wneud neu dyna beth rydych chi’n gweld ffermwyr eraill yn ei wneud.”
Mae Scott yn cynnal grŵp trafod i ffermwyr, o’r enw Talk Farm Regen Monmouthshire, ac un o brif ddibenion y grŵp hwnnw yw cefnogi ac annog ei aelodau wrth iddynt arbrofi a rhoi cynnig ar bethau. Un agwedd ar hyn yw clywed gan siaradwyr sydd wedi cael llwyddiannau wrth weithio o fewn hinsawdd a daearyddiaeth gyffredin neu debyg. Mae Scott ei hun wedi dechrau pori ei ddefaid i gael gwared ar blanhigion diangen fel dail tafol ac ysgall, ac mewn un flwyddyn, mae wedi lleihau faint o dir y mae’n ei chwistrellu â chwynladdwyr o’r 25 erw llawn i ddim ond 5-6 erw. Mae hyn wedi arbed arian iddo ac wedi gwella’r amodau ar gyfer bywyd gwyllt lleol.
Mae Ystâd Llanofer, ystâd ger Y Fenni gyda 600 erw o dir fferm, hefyd wedi bod yn cylchdroi eu hanifeiliaid pori, gan eu crynhoi mewn lleiniau llai o dir am gyfnodau byr o amser. Maent wedi gweld eu pridd a’u gweiriau’n gwella cymaint fel ei fod wedi dileu’r angen am wrtaith.
Po fwyaf y mae ffermwyr yn ei glywed am bosibiliadau newid system, y mwyaf y maent yn ei gefnogi. Prawf Regen Ben o hynny yw’r ceisiadau am help sy’n llenwi ei fewnflwch bron bob dydd. “Mae’n ymwneud gyda hau’r hedyn hwnnw,” meddai. Fel y mae pob ffermwr yn gwybod, mae gan hedyn sydd wedi’i feithrin yn dda bob siawns o dyfu.




