Hyrwyddo Bwyd a Diod Lleol
Mae Swyddogion Bwyd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal prosiect i hyrwyddo busnesau bwyd a diod lleol a chryfhau ein heconomi bwyd lleol. Mae ein gwaith yn ymwneud â chefnogi busnesau annibynnol i ffynnu a thyfu yn gynaliadwy ac yn foesegol. Mae tîm y prosiect yn gweithio ar lawr gwlad i gysylltu cynhyrchwyr lleol â phrynwyr (caffis, bwytai, siopau fferm, delis ac yn y blaen) a sbarduno perthnasoedd masnachu newydd yn Sir Fynwy a gyda’n cymdogion. Rydym hefyd yn cefnogi busnesau newydd ac yn ceisio darparu llwybrau newydd i’r farchnad i gynhyrchwyr. Y prif uchelgais yw sicrhau bod bwyd a gynhyrchir yn Sir Fynwy a’r cyffiniau ar gael yn ehangach i drigolion ac ymwelwyr.
Mae enghreifftiau o’n gwaith yn cynnwys darparu lle i bedwar busnes bach yn Sir Fynwy fasnachu yng Ngŵyl Fwyd y Fenni ar stondin a rennir a sicrhawyd gan Bartneriaeth Bwyd Sir Fynwy, helpu safle manwerthu lleol i arallgyfeirio eu hystod o seidr a pherai sudd o ansawdd uchel, a dod o hyd i siopau manwerthu newydd ar gyfer sudd afal wedi’i wasgu o berllannau lleol traddodiadol. Mae’r prosiect presennol yn rhedeg tan 2025, ac felly os ydych chi’n chwilio am lwybrau newydd i’r farchnad neu i ehangu eich amrywiaeth o gyflenwyr lleol, cysylltwch â ni drwy’r Bartneriaeth Bwyd.
Mae’r prosiect yn cael ei gynnal gan Gyngor Sir Fynwy gyda chefnogaeth Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy. Ariennir llawer o’r gwaith gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin.




