Cymunedau’n Tyfu Ar Draws Sir Fynwy
Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy (PBSF) wedi rhoi grantiau bach o £200 yr un i ddeg prosiect a arweinir gan y gymuned i ddechrau neu wella gweithgareddau tyfu bwyd. Ysbrydolwyd y cynllun gan raglen hirsefydlog Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes a gynhelir gan Gymdeithas y Pridd, yn arbennig mis Plannu a Rhannu: ‘ymgyrch i gael y genedl i dyfu a rhannu cynnyrch gyda’u cymuned, ysgol, teulu neu ffrindiau’.
Yn 2023 roedd Plannu a Rhannu yn rhedeg o 22 Ebrill i 20 Mai, a gweithiodd aelodau BPSF yn galed i agor ceisiadau mewn pryd. Dyma’r tro cyntaf i ni gynnig cynllun grantiau, ac felly roedd gennym ni lawer i’w ddysgu, ond roedd profiad ac ymrwymiad aelodau’r BPSF yn amlwg iawn. Diolch o galon i Andrea, yn arbennig, am ei holl help.
Ein nod oedd rhoi cyfle i gymunedau Sir Fynwy i gymryd yr awenau, gwneud rhywbeth gyda’n gilydd, a phrofi’r llawenydd a ddaw o dyfu bwyd. Buom yn edrych am brosiectau a oedd yn:
- Yn canolbwyntio ar dyfu bwyd
- Bod â photensial i fod yn hirdymor
- Yn cael eu harwain gan y gymuned
- Dod â phobl neu sefydliadau at ei gilydd mewn modd cydweithredol
- Yn gyfeillgar i’r hinsawdd a natur
- Annog agwedd gadarnhaol at amrywiaeth.
Cafodd y ffurflen gais ei phostio ar-lein a’i chyhoeddi drwy ein rhwydweithiau a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Rydym bellach yn sylweddoli y gallem fod wedi cynllunio cyhoeddusrwydd yn fwy trylwyr (gwers a ddysgwyd ar gyfer y tro nesaf), ond roeddem yn dal yn falch iawn gyda’r ymateb ac amrywiaeth y grwpiau a ymgeisiodd. Aeth deg drwy ein proses asesu, gan gynnwys ysgolion, hybiau lleol, grwpiau cymunedol, a grwpiau o gydweithwyr yn y gweithle.
Mae’r grantiau bellach wedi’u dyfarnu, ac mae’r prosiectau ar y gweill. Mae grwpiau newydd a sefydledig ar draws Sir Fynwy yn plannu coed a llwyni ffrwythau, perthi bwytadwy, a chlytiau llysiau, cynnal digwyddiadau, a phrynu twneli polythen, blychau nythu, biniau compost, ac offer. Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am sut y maent yn datblygu mewn erthygl yn y dyfodol.
Soniodd sawl person wrthym y byddent yn gwerthfawrogi hyfforddiant ac arweiniad ar sut i dyfu llysiau yn fwy cynaliadwy. Mae BPSF yn ffodus i allu helpu gyda hyn ac rydym ar hyn o bryd yn archwilio opsiynau i sicrhau bod pawb yn manteisio i’r eithaf ar eu grant. Os yn bosibl, byddwn yn agor y cyfle i eraill hefyd, felly cadwch olwg am ddiweddariadau.
Bydd rownd 2 ein cynllun grantiau bach tyfu cymunedol yn agor yn gynnar yn 2023, gyda’r un meini prawf.




