Rhwydwaith Busnes Bwyd Trefynwy
Mawrth 26, 2024 @ 6:00 pm - 8:30 pm
Ymunwch â Rhwydwaith Busnes Bwyd Trefynwy i gael sgyrsiau gyda Debbie Szigo o Little Green Refills ac Ellen Hinton o The Lion Inn, Tryleg.
Trafod sut i ymgorffori cynnyrch lleol yn eich bwydlen dafarn neu gaffi, a beth mae perchnogion tafarndai a chaffi yn chwilio amdano wrth brynu gan gynhyrchwyr annibynnol. Byddwn yn siarad am gynllunio bwydlenni a thymhoroldeb, rheoli costau, cyfathrebu â chwsmeriaid, ac adeiladu perthnasoedd masnachu parhaol. Croeso i bawb, mae archebu lle’n hanfodol.
Archebwch yma: https://forms.office.com/e/JS9Q6wHV29
Dyddiad cau archebu yw 22 Mawrth 2024




