

Os mai dim ond un bwyd wedi’i fforio y byddwch yn ei ychwanegu at eich bwrdd cinio’r flwyddyn nesaf, gwnewch hynny’n ddanadl poethion.
Mae danadl poethion yn hynod o dda i’n hiechyd. Maent yn cynnwys mwy o haearn na dail eraill fel sbigoglys a chêl. Maent yn cynnwys mwy o brotein na llawer o lysiau gwyrdd eraill. Maent yn gyfoethog o ran fitaminau A ac C ac maent yn helpu i gynyddu ein cyfrif celloedd gwaed coch.
Gwerthwyd danadl poethion fel llysieuyn ym marchnadoedd y 18fed ganrif yn y DU ac maent yn parhau i gael eu gwerthu ym marchnadoedd Dalmatia, yn Ne Croatia. Ystyrir eu bod yn llysiau gwyllt gwerthfawr gan lawer a gallwn eu cael am ddim, gan eu bod yn tyfu’n helaeth mewn ardaloedd gwledig a threfol. Credir bod eu presenoldeb yn dynodi anheddiad dynol neu anifail blaenorol ac fel arfer byddwch yn eu gweld yn cymryd drosodd lleoedd anghyfannedd. Er hwylustod, gallech hyd yn oed sefydlu gwely danadl poethion gartref (mewn cynhwysydd i’w hatal rhag lledaenu). Wrth gynaeafu’r hyn sydd ei angen arnoch o’r planhigyn, ni fyddwch yn dinistrio’ch ffynhonnell; byddwch mewn gwirionedd yn annog twf newydd i ffurfio.
Mae danadl poethion yn hawdd iawn i’w paratoi a’u bwyta; peidiwch â chael eich digalonni gan y teimladau pigo cas. Defnyddiwch fenig wrth eu casglu ac yna gallwch gael gwared ar y pigiad trwy naill ai sychu neu ferwi’r dail. Gellir defnyddio’r dail yn yr un ffyrdd ag y byddech chi’n defnyddio sbigoglys, eu hychwanegu at gacennau, neu eu mwynhau fel te. Yng Nghernyw defnyddir y dail i lapio caws o’r enw Yarg. Mewn gwirionedd, mae ffyrdd di-ri o ddefnyddio’r planhigyn danadl poethion. Man cychwyn syml fyddai stwnsho’r dail i’w daenu ar dost (efallai gan ychwanegu wy ar ben hynny), neu eu ffrio fel creision. Mae Cystadleuaeth Bwyta Danadl Poethion y Byd yn swydd Dorset lle rhoddir 30 munud i gyfranogwyr fwyta cymaint o ddail amrwd ag y gallant. Felly mae’n bosibl bwyta’r dail heb eu coginio, ond nid yw’n beth pleserus!
Mae’n well dewis brigau dail y danadl poethion gan mai dyna le byddwch yn dod o hyd i’r dail mwyaf tyner. Yr amser gorau i gynaeafu’r planhigyn yw yn ystod misoedd y gwanwyn. Dyma’r amser hefyd, yn draddodiadol, pan wasanaethwyd danadl fel tonic gwanwyn ar gyfer hwb iechyd ar ôl misoedd prin y gaeaf, ac i baratoi ar gyfer y flwyddyn i ddod. Unwaith y bydd y planhigion yn mynd i’w cyfnod hadau, gall y dail weithiau llidio’r llwybr wrinol. Ar y pwynt hwn, gallech gadw at fwyta hadau’r planhigion benywaidd, y gellir eu taenu ar unrhyw beth.
I gael rhagor o wybodaeth am ddefnyddio danadl poethion ac unrhyw blanhigion eraill gallwch eu fforio, mae yna fforwyr proffesiynol rhagorol yn gweithredu yn Sir Fynwy. Chloé Newcomb Hodgetts o Gourmet Gatherings Liz Knight o Forage Fine Foods yn cynnig llu o gyrsiau a digwyddiadau diwrnod llawn a hanner diwrnod.
*Ymwadiad* Ysgrifennwyd yr erthygl hon gan Mud and Thunder er gwybodaeth gyffredinol yn unig. Dylech bob amser gysylltu â’ch meddyg teulu os ydych yn poeni am eich iechyd mewn unrhyw ffordd.




