Joshua Byrne

Joshua Byrne

The Black Bear Inn

@theblackbearusk

www.theblackbearinn.co.uk

Dywedwch wrthym beth ydych yn ei wneud

Chef Berchennog The Black Bear Inn

Rhowch un ffaith ddiddorol am y Black Bear Inn.

Mae wedi bod yma am bron 400 mlynedd.

Sut aethoch chi mewn i’r maes bwyd?

Fe wnes ddechrau gweithio mewn ceginau proffesiynol pan oeddwn yn 18 oed yn cynilo ar gyfer teithio mewn blwyddyn fwlch, dwlu ar hynny, mynd ymaith i deithio ond chyrhaeddais i ddim y brifysgol o gwbl a rydw i wedi bod yn coginio byth ers hynny.

Os gallech newid un peth am y system fwyd, beth fyddai hynny?

Mwy o gefnogaeth i gynhyrchwyr bwyd sy’n cynhyrchu bwyd cynaliadwy ansawdd uchel fel bod y cynhwysion gorau yn rhatach ac ar gael yn ehangach i bawb.

Pa hoff fwydydd fyddem ni yn eich gweld yn eich cegin ar hyn o bryd (Mawrth)?

Rydyn ni’n dechrau gweld arwyddion cyntaf y gwanwyn, neu o leiaf ddiwedd y gaeaf, felly bu gweld y garlleg gwyllt cyntaf yn wych.

Pa lyfr/gwefan/neu adnodd arall cysylltiedig â bwyd fyddech chi’n ei argymell?

New British Classics gan Gary Rhodes; selsig o glawr i glawr!

Dywedwch wrthom am sefydliad neu berson sy’n gweithio mewn bwyd yn Sir Fynwy sydd wedi eich ysbrydoli.

Pawel o Paul’s Organic Vegetables. Mae’n tyfu llysiau gwych lawr yr hewl o’r dafarn ac yn gweithio’n anhygoel o galed ac yn bleser i ddelio ag ef.