Sir Fynwy yn Dod Ynghyd i Goginio a Rhannu

Mae’r cysyniad Coginio a Rhannu yn syml: mae pobl yn dod at ei gilydd i goginio pryd o fwyd, ac yna’n mwynhau ei fwyta. Ar 2ail Mawrth 2023, cynhaliodd Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy ddigwyddiad Coginio a Rhannu yn y Fenni fel ffordd i’n Grŵp Llywio ddod i adnabod ein gilydd yn well, i gwrdd â phobl o’r gymuned leol, ac i gefnogi busnesau bwyd a diod lleol. Cawsom y diwrnod gorau!

Cytunodd Canolfan Gymunedol y Fenni yn garedig i adael i ni ddefnyddio
eu cegin a’u neuadd. Mae’r gegin yn wych: yn cynnwys popeth sydd angen
ar gyfer coginio cymunedol ar raddfa fawr, ac ar gael i’w llogi. Os ydych yn
chwilio am leoliad yn Sir Fynwy ar gyfer gweithgareddau coginio – fel
prosiect cymunedol neu fusnes bach/cychwynnol – dylech yn bendant fynd
i fwrw golwg ar y Ganolfan Gymunedol.

Bu Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy (BPSF) yn gweithio gyda chynhyrchwyr
lleol i gynllunio’r fwydlen yn seiliedig ar yr hyn a fyddai ar gael. Yn y diwedd
fe wnaethom gefnogi 15 o fusnesau lleol (rhestr lawn isod), a roddodd
gynhwysion blasus i ni ar gyfer:

Prif gwrs

Cawl cig oen Cymreig gyda llysiau lleol wedi’u ffermio’n atgynhyrchiol

Stiw llysiau gyda ffa fava a dyfwyd ym Mhrydain a phys carlin (fegan)

Bara Y Fenni gyda menyn Cymreig a chaws cheddar

Pwdin

Tartenni ceuled lemwn Clwb Coginio

Afalau pob gyda thopin crymbl (fegan)

Hufen iâ lleol

I yfed

Sudd afal lleol un amrywiaeth

Casglodd aelodau BPSF Elaine a Marianne y cynhwysion, a dechreuon ni goginio am hanner dydd. Cafodd cogyddion gwirfoddol eu harwain gan yr arweinwyr coginio profiadol Elaine ac Angharad. Yn raddol bu pobl yn dod i mewn, ac yn fuan roedd 18 ohonom yn y gwaith, yn ymestyn dros dair cenhedlaeth. Diolch i streiciau’r ysgol y diwrnod hwnnw, roedd aelodau’r Clwb Coginio yn gallu ymuno â ni; cymerasant yr awenau ar bwdinau o dan lygad barcud Angharad, tra bod Elaine yn gofalu am y cawl a’r stiw. Os nad ydych wedi clywed am y Clwb Coginio, sy’n dysgu plant i goginio prydau teulu maethlon yn eu cartrefi eu hunain, edrychwch ar-lein: “Gall plant goginio!”

Wrth i’r potiau fyrlymu, dechreuodd mwy o westeion gyrraedd, gan gynnwys nifer o’r cynhyrchwyr a oedd wedi darparu bwyd neu ddiod. Daeth pawb i mewn i osod byrddau, llenwi jygiau dŵr a chael y neuadd yn barod. Ychydig ar ôl 5 o’r gloch, eisteddodd dros 30 o bobl i fwyta: aelodau o’r gymuned, cynhyrchwyr, Cynghorwyr lleol, gwirfoddolwyr, ac ymgyrchwyr i gyd yn mwynhau bwyd maethlon, blasus, lleol. Croesawodd Martin, Cadeirydd y BPSF, bawb a chyflwynodd waith y Bartneriaeth, a chawsom i gyd fwynhau’r bwrlwm hapus o sgwrsio yn ategu at sŵn y clincian a’r cyllyll a ffyrc. Unwaith y cliriwyd y platiau, agorwyd y llawr i siaradwyr byrfyfyr: siaradodd y Clwb Coginio, Monnow Valley Cider, Gardd
Farchnad Tir Awen, ac Ein Bwyd 1200 gydag angerdd a huodledd am bŵer bwyd i newid bywydau a chymunedau bu llawer o chwerthin o’r gegin wrth i aelodau’r Clwb Coginio fynd i’r afael â golchi llestri gan ddefnyddio pibell chwistrellu a pheiriant golchi llestri masnachol.

Arhosodd grŵp o hoelion wyth ymlaen i helpu i lanhau, eto o dan oruchwyliaeth arbenigol Elaine: glanhawyd arwynebau, ysgubwyd lloriau, a chasglwyd golchdy. Roedd bwyd dros ben yn cael ei orchuddio a’i lapio yn barod ar gyfer bore coffi’r Ganolfan Gymunedol a chlwb cinio’r diwrnod canlynol. Wrth i ni ddiffodd y golau (wedi’u pweru gan baneli solar y Ganolfan Gymunedol) a chloi’r drws, gadawom yn teimlo’n fodlon ein bod wedi gweithio’n dda ac wedi’n bwydo’n dda, gyda’r boddhad nad oeddem wedi gwastraffu dim ac wedi rhoi rhywbeth yn ôl.

Gan fod y digwyddiad mor llwyddiannus, rydym yn gobeithio cynnal digwyddiad Coginio a Rhannu arall yn ne’r sir yn ddiweddarach eleni.

Mentrau lleol a ddarparodd gynhwysion a/neu gymorth:

Canolfan Gymunedol y Fenni

Marchnad y Fenni

Brookes Dairy, Devauden

Oen Castell Cwrt, Llan-ffwyst

Castle Dairies, Caerffili

La Mediterranea Food UK, Y Fenni

Fferm Langtons, Crucywel

Little Green Refills, Y Fenni

Monnow Valley Cider, Llanarth

Moor Park Garden Organic Vegetables, Llanbedr

N. S. James & Son Butchers, Rhaglan

Cigyddion Neil Powell, Trefynwy a’r Fenni

Riverford Swydd Henffordd

Siop Fferm Square, Llanfihangel Troddi

Gardd Farchnad Tir Awen, Gilwern

The Cookalong Club, Cas-gwent