Grantiau Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy – Cyfle Olaf i Ymgeisio!

Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol sy’n cyfrannu at fudiad bwyd da Sir Fynwy.

Gall ymgeiswyr gyflwyno cais am grantiau o hyd at £2,000 i gefnogi prosiectau sy’n cyrraedd cymunedau gwledig, sy’n hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant (gan gynnwys hyrwyddo’r Gymraeg), a/neu annog cydweithio rhwng cymunedau a busnesau/cynhyrchwyr bwyd lleol.

Wrth wneud cais, cynghorir ymgeiswyr bod yn rhaid i brosiectau fodloni un o’r amcanion hyn:

  • Cysylltu cynhyrchwyr a defnyddwyr lleol.
  • Cynyddu mynediad at fwyd maethlon.
  • Dod â phobl ynghyd drwy fwyd da.
  • Hyrwyddo trafodaeth am ddewisiadau bwyd moesegol, cynaliadwy

Os oes gennych chi brosiect sy’n hyrwyddo bwyd, tarddiad, cynaliadwyedd a chydlyniant cymunedol, dyma’ch cyfle i wneud cais am arian.

Rhaid i bob ymgeisydd llwyddiannus fod â’r gweithgaredd yn barod i fwrw ati erbyn 31ain Hydref 2023.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 30ain Medi 2023.

I wneud cais, ac am ragor o wybodaeth, cliciwch yma.