Ffair Fwyd y Gwanwyn Y Fenni, 9 Mawrth 2024
Mae FFAIR FWYD Y GWANWYN newydd sbon yn dod i’r Fenni a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno! MYNEDIAD AM DDIM. Lleoliad: Priordy’r Santes Fair ac Ysgubor y Degwm NP7 5ND. Prynwch yn lleol. Siopwch yn gynaliadwy. Dewch i ddweud helo wrth y tyfwyr a’r cynhyrchwyr gorau yn/o amgylch Sir Fynwy (25 o arddangoswyr). Siopwch am eich [...]
Rhwydwaith Busnes Bwyd a Diod Sir Fynwy
Rhwydwaith Busnes Bwyd a Diod Sir Fynwy Mae Rhwydwaith Busnes Bwyd a Diod Sir Fynwy yn ymwneud â chysylltiadau, cyfnewid gwybodaeth, a llwybrau i'r farchnad. Mae gan y Rhwydwaith grŵp Facebook sydd wedi’i guradu’n ofalus (Rhwydwaith Cynhyrchwyr Sir Fynwy a’r Siroedd), sy’n cynnig amgylchedd cefnogol a chyfeillgar ar gyfer cwestiynau a thrafodaethau. Mae digwyddiadau rheolaidd hefyd yn cael eu [...]
Hyrwyddo Bwyd a Diod Lleol
Hyrwyddo Bwyd a Diod Lleol Mae Swyddogion Bwyd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal prosiect i hyrwyddo busnesau bwyd a diod lleol a chryfhau ein heconomi bwyd lleol. Mae ein gwaith yn ymwneud â chefnogi busnesau annibynnol i ffynnu a thyfu yn gynaliadwy ac yn foesegol. Mae tîm y prosiect yn gweithio ar lawr gwlad i gysylltu cynhyrchwyr lleol â [...]
Yn Creu Partneriaeth Am Fwyd Ar Garreg Ein Drws
Yn Creu Partneriaeth Am Fwyd Ar Garreg Ein Drws Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy, Cyngor Sir Fynwy, a’r elusen Family Action wedi partneru â’i gilydd i agor dau Glwb BWYD yn Sir Fynwy i helpu i leihau gwastraff bwyd a darparu ffynhonnell arall o fwyd i deuluoedd sy’n teimlo’r pwysau. Mae Family Action yn cynnal Clybiau Bwyd Ar Garreg [...]
Diwrnod yn yr Ŵyl i Fusnesau Sir Fynwy
Yn 2023 ymunodd Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy â Gŵyl Fwyd y Fenni i roi blas ar fasnachu i bedwar busnes lleol yn y digwyddiad enwog. Talodd y Bartneriaeth am babell fawr yn y Farchnad Cynhyrchwyr Newydd a Bach yng nghwrt y priordy, a chynigiwyd lle i fusnesau bach lleol na fyddent wedi gallu bod yn bresennol fel arall.
Cymunedau'n Tyfu Ar Draws Sir Fynwy
Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy (PBSF) wedi rhoi grantiau bach o £200 yr un i ddeg prosiect a arweinir gan y gymuned i ddechrau neu wella gweithgareddau tyfu bwyd. Ysbrydolwyd y cynllun gan raglen hirsefydlog Dewch at eich Gilydd Bwyd am Oes a gynhelir gan Gymdeithas y Pridd, yn arbennig mis Plannu a Rhannu: ‘ymgyrch i gael y genedl i dyfu a rhannu cynnyrch gyda’u cymuned, ysgol, teulu neu ffrindiau’.
Sir Fynwy yn Dod Ynghyd i Goginio a Rhannu
Mae'r cysyniad Coginio a Rhannu yn syml: mae pobl yn dod at ei gilydd i goginio pryd o fwyd, ac yna'n mwynhau ei fwyta. Ar 2ail Mawrth 2023, cynhaliodd Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy ddigwyddiad Coginio a Rhannu yn y Fenni fel ffordd i’n Grŵp Llywio ddod i adnabod ein gilydd yn well, i gwrdd â phobl o’r gymuned leol, ac i gefnogi busnesau bwyd a diod lleol. Cawsom y diwrnod gorau!
Grantiau Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy – Cyfle Olaf i Ymgeisio!
Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn gwahodd ceisiadau gan sefydliadau trydydd sector a grwpiau cymunedol sy’n cyfrannu at fudiad bwyd da Sir Fynwy.
Cael Bwyd a Diod Sir Fynwy ar Fwydlenni Sir Fynwy
Ar 30ain Mawrth 2023, cynhaliodd Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy ddigwyddiad cwrdd â’r prynwr yng ngwesty’r Three Salmons ym Mrynbuga. Gwahoddwyd cynhyrchwyr a phrynwyr o bob rhan o’r sir i fynychu’r digwyddiad masnach cyntaf hwn gyda’r nod o annog gwerthu mwy o gynnyrch lleol ym mwytai, caffis a siopau Sir Fynwy.
Ysgolion Sir Fynwy yn Gwario ‘Blwyddyn ar y Fferm’
Mae ysgolion ar draws Sir Fynwy yn cael galwadau fideo rheolaidd gyda chynhyrchwyr bwyd lleol i helpu disgyblion i ddysgu beth sy’n digwydd yn y caeau a’r siediau o’u cwmpas, ac o ble y daw eu bwyd.














