Jessi Stephens

Gynnyrch Ffair Sir Fynwy

 

Gan fod Sir Fynwy yn sir wledig, gyda darnau helaeth o dir amaethyddol, mae’n hawdd prynu bwyd nad yw wedi teithio’n bell iawn. P’un ai ydych yn cyrchu llysiau o farchnad ffermwyr neu’ch wyau a chaws o siop groser, gallwch ddod o hyd i amrywiaeth o gyflenwyr a fydd yn lleol i chi. Mae’r un peth yn wir am gig; yn enwedig os ydych yn ei gyrchu o Ffair Sir Fynwy, busnes a sefydlwyd gan Jessi Stephens a’i gŵr, Chris, i gefnogi ffermwyr Sir Fynwy:

“Dechreuais Ffair Sir Fynwy oherwydd roeddwn i eisiau gwneud yn siŵr bod pobl leol yn cael mynediad at y bwyd o’u cwmpas a oedd yn cael ei dyfu yn y caeau o gwmpas lle maent yn byw, a bod ffermwyr yn cael pris teg gwarantedig.”

Y fantais i brynu’n lleol yw eich bod mewn sefyllfa well i olrhain o ble y daeth eich cig a sut mae’ch bwyd wedi’i drin. Mae Jessi’n tynnu sylw, os ydych chi’n gallu darganfod o ble mae’ch bwyd wedi dod a brid yr anifail, yna chi sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu pa mor iach oedd yr anifail a pha mor faethlon yw eich stêc neu’ch darn o gig:

“Mae pob anifail yn wahanol. Mae pob anifail wedi gweithio ei gyhyrau mewn ffordd wahanol, yn dibynnu ar ba fath o fywyd maent wedi’i gael. Dyna pam ein bod yn tueddu i ddefnyddio dull adfywiol sy’n cael ei fwydo â glaswellt yn ei gyfanrwydd oherwydd ein bod yn gwybod bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar yr anifail. Bydd anifeiliaid sydd wedi eistedd o gwmpas mewn sied yn blasu’n wahanol i anifail sydd wedi bod yn yr awyr agored, yn gwreiddio, yn chwilota, yn bwyta. Mae blas a chysondeb y cyhyrau yn wahanol.”

Rhoddodd Jessi y gorau i brynu cig archfarchnad ar gyfer ei chartref ei hun ar ôl sylwi ar faint o ddŵr a ryddhawyd gan y cig wrth goginio, y mae’n credu sy’n cael ei ychwanegu at ei bwysau. Iddi hi, y broblem wirioneddol yw nad oes modd olrhain llawer o’r cig sy’n cyrraedd silffoedd archfarchnadoedd bellach yn ôl i’w fferm wreiddiol ac mae wedi treulio cryn dipyn o amser yn cael ei storio mewn warws. A hithau wedi bod yn gigydd ei hun ers blynyddoedd lawer, mae Jessi yn gwybod llawer am garcasau anifeiliaid a’r hyn y maent yn ei ddweud wrthym am iechyd yr anifail. Mae’n esbonio bod arlliw melynaidd ar fraster llawer o’u hanifeiliaid oherwydd eu bod yn cael eu bwydo â glaswellt. Yr hyn sydd hefyd yn amlwg gan Jessi yw bod yna gamsyniad bod prynu cynnyrch organig, adfywiol neu buarth yn ddrytach: “Efallai y byddwch chi’n cael 500g o friwgig yn hytrach na 750g am yr un pris, ond bydd 500g yn mynd yn llawer pellach nag y byddai 750g. Mae’r maeth sydd ynddo yn well.”

Mae Jessi a Chris yn ffermwyr eu hunain ac wedi ymrwymo i gysylltu cwsmeriaid â’u ffynonellau bwyd. Mae Jessi a Chris yn cydweithio â 9 fferm a 25 o fusnesau lleol. Maent yn nodi’r wybodaeth am eu cyflenwyr yn glir ar eu cynnyrch, ac, yn yr un modd, maent yn gwneud pwynt o rannu gwybodaeth â’u ffermwyr ynghylch sut mae’r cwsmeriaid yn mwynhau eu cig. Mae hyn mor werthfawr i ffermwyr sydd wedi arfer â bod yn y tywyllwch ynghylch ble mae cig eu hanifeiliaid yn mynd ar ddiwedd eu taith. Mae’r rôl y mae Jessi a Chris yn ei chwarae wrth gydlynu cronfa o ffermwyr lleol yn rhoi’r ffermwyr hynny mewn sefyllfa i werthu eu stoc ar gyfradd sy’n hylaw iddynt ac am bris y cytunwyd arno ymlaen llaw. Maent yn creu system gyda digon o hyblygrwydd ynddi i ffermwyr gymryd yr amser i ofalu am eu hanifeiliaid. Wrth galon Ffair Sir Fynwy, mae egwyddor o brynu gan ffermwyr, a hynny heb ystyried faint o dda byw y gall eu ffermydd eu cefnogi’n gyfrifol. Rhwng y ffermydd sy’n cyflenwi Ffair Sir Fynwy, mae ystod dda o stoc iach a risg a rennir, yn yr ystyr nad oes unrhyw fferm o dan bwysau i orberfformio i ateb y galw. Mae’r trefniant hwn wedi gweithio’n dda iawn gyda gwartheg, defaid a moch. Mae wedi bod yn anoddach i Jessi ddod o hyd i ieir a fagwyd yn lleol nad ydynt eisoes mewn contract archfarchnad.

Fodd bynnag, mae hi bellach yn gweithio gyda 4 neu 5 o ffermydd, gan annog pob un i fagu tua 20 o ieir buarth ac ieir sy’n cael eu bwydo ar borfa. Mae Jessi a Chris hefyd yn cydlynu dosbarthu cig mewn ffordd sy’n sicrhau dim gwastraff, trwy eu cynlluniau bocs sy’n cynnwys elfen o rywbeth bach annisgwyl. Gan mai dim ond nifer penodol o goesau ac ysgwyddau sydd ar gael, efallai y cewch chi fath gwahanol o ddarn cig yn eich bocs. Byddwch hefyd yn cael bridiau gwahanol o wythnos i wythnos.