[Photo] Lucie Parkin from Abergavenny Food Festival, Elaine Blanchard from Monmouthshire Food Partnership, Cllr Mary Ann Brocklesby Leader of Monmouhshire County Council, Mayor Chris Holland Abergavenny Town Council
Diolch i bawb a ymunodd â ni yn Neuadd Marchnad y Fenni i ddathlu ein cynhyrchwyr bwyd artisan ac addurniadau newydd Gŵyl Fwyd y Fenni.
Roedd y farchnad naid yn gynllun llwyddiannus ar y cyd rhwng Cyngor Tref y Fenni, Partneriaeth Fwyd Sir Fynwy, Cyngor Sir Fynwy a Gŵyl Fwyd y Fenni.
Cafodd y rhai a fynychodd gyfleoedd i flasu bwydydd bendigedig, cysylltu gyda grwpiau cymunedol egniol a mwynhau perfformiad hyfryd gan gôr capella y dref, Cân Y Fenni, am 12.30pm.
Cynhyrchwyr/Arlwywyr
- Blue Light Catering –crêpes melys a sawrus a phice ar y maen.
- Caerwent Craft Chocolate –Siocled crefft ffa i far a gynhyrchwyd yng Nghymru.
- Court Bleddyn Farm – Porc, eidion a chig oen blasus y gellir ei gasglu neu ei ddanfon i’ch cartref.
- Crafty Creations – teisennau bach
- Smart’s Cheeses – cawsiau traddodiadol Caerloyw
- Sobremesa – cwrw ffermdy a seidr naturiol gyda naws o le
- Spice Up The Valley – bwyd stryd Caribïaidd
- Tudges Rare Breed Pork Farm – porc brid prin a chig ceirw gwyllt
- Wigmores of Monmouth – pobwyr artisan traddodiadol ers 1907
- The Dell Vineyard
- Mountain View Regenerative Farm
Grwpiau Cymunedol a Gŵyl Fwyd y Fenni
- Partneriaeth Menter Gymunedol y Fenni – Cynllun sy’n eiddo i’r gymuned ac a gaiff ei arwain ganddynt sy’n anelu i gefnogi cymunedau, busnesau a gwpiau gwirfoddol y Fenni a’r cylch.
- Gŵyl Fwyd y Fenni – dathlu diwylliant bwyd Cymru a thu hwyd. Prynwch Docynnau Crwydro yn ein stondin ar gyfer Gŵyl 2025 (20 a 21 Medi).
- Canolfan Croeso y Fenni – Hyrwyddo bwyd gwych, golygfeydd godidog a llawer i’w wneud o – Fannau Brycheiniog i Ddyffryn Gwy.
- Cyngor Tref y Fenni – Y Cyngor lleol ar gyfer ein tref
- Hamdden MonLifee – rhan o gyngor Sir Fynwy sy’n darparu gwasanaethau hamdden, ieuenctid ac addysg awyr agored.
- Cyngor Sir Fynwy – Cymuned a Llesiant
- Caffe Llesiant Cymunedol Ysgubor y Degwm – Gofod croesawgar a chynhwysol lle gall aelodau’r gymuned ymgynnull i hyrwyddo llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol.
- The Gathering – Man lle gall pobl ymgynnull i wneud ffrindiau newydd/cynnal cyfeillgarwch presennol mewn adeilad hygyrch.
- Sefydliad y Merched – Ffederasiwn Gwent – Cwrdd â menywod yn eich ardal leol, gwneud cyfeillion a gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned.
If you want to be involved in future events like this please fill in our contact form >

















