Mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn brosiect peilot a gydlynir gan Synnwyr Bwyd Cymru sy’n anelu at gynnwys mwy o lysiau organig wedi’u cynhyrchu yng Nghymru mewn prydau ysgolion cynradd ar hyd a lled Cymru.

Gan weithio gyda phartneriaid gan gynnwys Castell Howell, adran Garddwriaeth Cyswllt Ffermio a thyfwyr bwyd brwdfrydig hefyd, mae’r prosiect Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn helpu i gynnwys mwy o lysiau organig sydd wedi’u tyfu’n lleol mewn cinio ysgol.

Drwy fanteisio ar y cyfle yn y farchnad yn sgil polisi Llywodraeth Cymru i ddarparu prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, a thrwy gefnogi cyrff cyhoeddus i fodloni eu gofynion statudol, mae Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion yn sbardun i gynhyrchu llysiau organig yng Nghymru ac yn meithrin gwytnwch ar gyfer y dyfodol. Mae’r gwaith hwn yn hanfodol os yw cyrff cyhoeddus o ddifrif ynglŷn â chyflawni eu rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) yn ogystal â chefnogi cymunedau lleol a datblygu’r gallu i wrthsefyll siociau ac effeithiau newid hinsawdd yn y dyfodol.

Yn 2023, gyda chymorth Cronfa Cefnogi Cwmnïau Lleol Llywodraeth Cymru, lansiodd y rhaglen Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion ei cham cyntaf, gan weithio gyda thri thyfwr ledled Caerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Fynwy, gyda chefnogaeth Partneriaethau Bwyd lleol.

Gan gydnabod bod llysiau organig Cymreig yn ddrytach na llysiau sy’n cael eu tyfu’n gonfensiynol, mae’r peilot wedi talu’r bwlch yn y pris rhwng cynnyrch lleol, organig a phrisiau cynnyrch arferol. Yng ngwanwyn 2024, cafodd Synnwyr Bwyd Cymru arian ychwanegol gan y rhaglen Pontio’r Bwlch i ehangu’r prosiect a’i gyrhaeddiad ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Ers hynny mae’r hyn a ddechreuodd fel prosiect peilot bach wedi datblygu’n fudiad ac yn 2024, fe wnaeth Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion weini 200,000 o ddognau o lysiau ffres, organig i fwy na 200 o ysgolion ledled Cymru.

Yn ystod Ebrill 2025, fe wnaeth Synnwyr Bwyd Cymru gyhoeddi cyfres o adroddiadau yn nodi cyflawniadau’r prosiect.  Gallwch ddarllen yr adroddiadau drwy glicio ar y dolenni isod:

> Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion: Adroddiad Cryno

> Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion: Adroddiad Llawn

> Stori Llysiau o Gymru ar gyfer Ysgolion