Siarter Fwyd

Y Sir Fynwy a Garem Ei Gweld

Mae’r Siarter Fwyd hon yn nodi ein gweledigaeth a’r blaenoriaethau yr ydym yn rhannu. Os ydych chi’n rhannu ein gweledigaeth, byddem wrth ein bodd petaech yn ymuno â ni.

Mae’r system fwyd wedi’i disgrifio fel popeth sy’n digwydd o’r fferm i’r fforc, o’r padog i’r plât ac o’r pridd i’r stumog fel y gallwn ni i gyd fwyta bob dydd. Felly mae’n ymwneud â ffermio, prosesu a gweithgynhyrchu bwyd, trafnidiaeth a logisteg, manwerthu a marchnata, bwyta a choginio, a delio â gwastraff ac ailgylchu. Mae’r system fwyd yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd, bioamrywiaeth ac iechyd pobl mewn ffyrdd mawr iawn. Mae’n fusnes i bawb ac mae angen i ni i gyd gymryd rhan ym mha bynnag ffordd y gallwn.

Bwyd Iachus i Bawb

• Bwyd maethlon, blasus sydd yn gyfeillgar i’r blaned ac sydd ar gael i bawb, nid oes ots beth yw eu hincwm

• Pawb yn meddu ar y wybodaeth a’r sgiliau i dyfu, paratoi coginio a bwyta bwyd da

• Nid oes neb yn dioddef o salwch sydd wedi ei achosi gan ddeiet gwael

Mudiad Bwyd Da

• Mae trigolion Sir Fynwy yn poeni am yr hyn y maent yn bwyta ac yn yfed, a sut y caiff ei baratoi

• Cymunedau yn dod at ei gilydd yn gyson drwy dyfu, paratoi a rhannu bwyd da

• Mae pobl leol yn teimlo eu bod wedi cysylltu gyda’r tir a’i gilydd drwy’r bwyd y maent yn prynu ac yn bwyta

Economi Bwyd Cynaliadwy

• Mae busnesau bwyd a diod sy’n gynaliadwy a’n foesol yn ffynnu drwy’r flwyddyn, gyda chefnogaeth gan drigolion parhaol ac ymwelwyr tymhorol

• Mae bwyd a ffermio yn cael eu hystyried fel llwybrau gyrfaol deniadol, yn cynnig gwaith a chyflogau teg

• Mae Sir Fynwy yn adnabyddus a’n cael ei pharchu am ansawdd a digonedd y cynnyrch

Bwyd i’r Blaned

• Mae ein tir yn cael ei reoli a’i ffermio’n gynaliadwy ac mae bioamrywiaeth yn ffynnu

• Mae pobl yn meddu ar wybodaeth gywrain er mwyn gwneud dewisiadau am fwyd sy’n gyfeillgar i’r blaned

• Mae gwastraff bwyd a phecynnu yn bethau sy’n perthyn i’r gorffennol