
Un o wartheg Jersey Josh

Mae ffermwyr ar draws Sir Fynwy a’r Gororau yn adnewyddu hen draddodiad o werthu’n uniongyrchol i’r cyhoedd. Daliwch i ddarllen i gael gwybod mwy am un ffermwr llaeth yn Sir Fynwy sy’n llwyddo gyda’i laeth blasus.
Magwyd Josh Morgan ar fferm a fu yn ei deulu ers pedair cenhedlaeth. Fe wnaeth ei rieni ei annog i symud ymaith o ffermio, ond ar ôl treulio ei ugeiniau yn gweithio yn y sector adeiladu ac adnewyddu eiddo, dychwelodd i’r fferm i setlo gyda’i deulu ifanc ei hun. Mae’n awr wedi ymroi i’w fusnes cynhyrchu llaeth, gan geisio ansawdd bywyd da ar gyfer ei wartheg a’i deulu.
Gwartheg Jersey sydd gan Josh. Maent yn llai ac yn ysgafnach ar eu traed na’r gwartheg Friesian du a gwyn a welwn yn y caeau fel arfer. Maent yn cynhyrchu llai o laeth na gwartheg mwy ond mae cynnwys braster menyn uwch yn eu llaeth, gan roi blas cyfoethog a hufennog iddo. Mae’r gwartheg yn cael lloi bob blwyddyn ar ôl iddynt gyrraedd dwy oed a gallant fyw nes byddant yn bymtheg. Maent yn cael saib rhag godro rhwng mis Rhagfyr a mis Ionawr.
Beth amser yn ô֧l penderfynodd Josh werthu llaeth ei wartheg drwy beiriannau gwerthu ar ôl gweld y syniad yn llwyddo yn Sir Benfro. Ef oedd â’r busnes cyntaf gwerthu llaeth drwy beiriannau yn Sir Fynwy. Esboniodd:
“Ar gontract llaeth mae’n 37c y litr, ond gyda pheiriant gwerthu mae pris y llaeth yn £1.70 y litr. Rwy’n hoffi’r ffaith y gallaf ddweud faint mae’n werth. Mae’n golygu bod ag ychydig o reolaeth. nid wyf yn symud i ffwrdd yn llwyr oddi wrth fy nghontract llaeth, ond mae’n gam yn y cyfeiriad cywir.”
Gan wynebu cynnydd mewn costau ynni a phorthiant anifeiliaid, teimlai Josh fod yn rhaid iddo wneud rhywbeth i wella sefyllfa ariannol ei deulu. Nid oedd eisiau gwneud hynny drwy gynyddu ei gynnyrch llaeth, a fyddai wedi effeithio ar ei wartheg ac efallai ansawdd y llaeth. Yn lle hynny, penderfynodd ganfod ffordd o godi pris teg am ei gynnyrch.
“Gyda’r rhan fwyaf o bethau, rydych yn codi eich prisiau os yw’ch costau yn cynyddu. Ond mae’r rhan fwyaf o ffermwyr wedi eu clymu i gontract. Does ganddyn nhw ddim unrhyw reolaeth dros y pris. Mae llawer o ffermwyr wedi gorfod gweithio o amgylch hyn drwy werthu’n uniongyrchol.”
Mae angen set wahanol o sgiliau ar gyfer ffermwyr sy’n symud i werthu uniongyrchol. Nid oes gan Josh ofn yr heriau sy’n gysylltiedig gyda hyn ac mae’n mwynhau gweithio gyda’r adborth a gaiff gan gwsmeriaid i berffeithio ei gymhareb llaeth-i-fraster.
Efallai y gwelwch Josh yn gyrru heibio gyda llaeth oer, hufennog ei wartheg ar ei ffordd i lenwi ei beiriannau gwerthu, gyda wyneb un o’i wartheg ar ochr y trelar. Os gwelwch Josh yn mynd o’i laeth o gwmpas, dywedwch wrtho beth yw eich barn am ei laeth. Neu dilynwch Josh’s Jerseys ar Instagram.




