Cynllun Mentora
Yn y prosiect hwn mae tri ffermwr o Sir Fynwy yn cael eu mentora ar sut i drosi eu tir i amaethyddiaeth adfywiol – ffordd o reoli’r tir sy’n canolbwyntio ar iechyd y pridd a defnyddio prosesau naturiol i reoli plâu a chlefydau a thyfu cnydau iach. Bydd pob ffermwr yn derbyn deuddeg mis o fentora gan Ben Taylor-Davies (Regen Ben), arbenigwr byd ar amaethyddiaeth adfywiol sy’n ffermio ychydig dros y ffin yn Swydd Henffordd. Gyda’i gilydd, bydd Ben a’r ffermwyr sy’n cymryd rhan yn archwilio cyfleoedd i integreiddio egwyddorion adfywiol i waith y fferm i leihau dibyniaeth ar fewnbynnau artiffisial a phorthiant sydd wedi’i fewnforio, a chynyddu gwydnwch ariannol ac amgylcheddol y fferm.
Mae sawl barn wahanol am yr hyn y mae ‘amaethyddiaeth adfywiol’ yn ei olygu mewn gwirionedd, ond un o’r rhai mwyaf cyffredin yw’r pum ‘egwyddor graidd’:
- cadwch y pridd dan orchudd (i leihau erydiad a chywasgiad)
- tarfwch cyn lleied â phosibl ar y pridd (i osgoi niweidio strwythur y pridd ac organebau byw ynddo)
- cadwch wreiddiau byw yn y pridd (i wella strwythur y pridd a chynnal yr organebau byw sydd ynddo)
- tyfwch amrywiaeth eang o gnydau (mae pob cnwd yn rhyngweithio’n wahanol â’r pridd, gan roi a chymryd mewn gwahanol ffyrdd)
- integreiddiwch anifeiliaid i’r system (datblygodd ein priddoedd a’n planhigion gydag anifeiliaid yn pori, sathru a thail, ac felly mae anifeiliaid yn rhan o system naturiol gytbwys)
Mae’r cynllun mentora hwn yn gydweithrediad rhwng Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy, ACE Mynwy, Maint Cymru, a’r gymuned ffermio leol. Mae gan Sir Fynwy hefyd grŵp trafod amaethyddiaeth adfywiol, Talk Farm Regen, ac mae croeso i unrhyw ffermwr neu dyddynnwr lleol ymuno ag ef. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni neu dewch o hyd i ni ar Facebook trwy chwilio ‘Talk Farm Regen Monmouthshire’.




