Rhwydwaith Busnes Bwyd a Diod Sir Fynwy
Mae Rhwydwaith Busnes Bwyd a Diod Sir Fynwy yn ymwneud â chysylltiadau, cyfnewid gwybodaeth, a llwybrau i’r farchnad. Mae gan y Rhwydwaith grŵp Facebook sydd wedi’i guradu’n ofalus (Rhwydwaith Cynhyrchwyr Sir Fynwy a’r Siroedd), sy’n cynnig amgylchedd cefnogol a chyfeillgar ar gyfer cwestiynau a thrafodaethau. Mae digwyddiadau rheolaidd hefyd yn cael eu cynnal ym Mwyty Alfred Russel Wallace ym Mrynbuga, lle gall cynhyrchwyr a manwerthwyr bwyd a diod glywed gan siaradwyr gwadd a chwrdd â chyd-berchnogion busnes a darpar brynwyr mewn amgylchedd anffurfiol hamddenol, gyda swper bwffe lleol i helpu pethau ar hyd.
Mae siaradwyr yn lleol i Sir Fynwy, gyda phrofiad uniongyrchol o weithio yn yr ardal, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am rannu eu meddyliau a’u cyngor.
Mae pob digwyddiad ar nos Fawrth, 18:00-20:30.
Os hoffech fynychu unrhyw un o’r digwyddiadau hyn, i siarad neu fel gwestai, e-bostiwch food@monmouthshire.gov.uk er mwyn cofrestru lle.
Mae digwyddiadau mewn print brâs yn nosweithiau blasu. Os ydych chi’n gynhyrchydd, dewch â samplau i’w rhannu â darpar brynwyr.
17-Hyd-23 Dechrau a thyfu busnes llwyddiannus mewn sir wledig, gyda Fferm Trealy a Diodydd Sobremesa
21-Tach-23 A ydych chi eisiau tyfu eich busnes? Pethau i’w hystyried a’r gefnogaeth sydd ar gael, gyda Cywain a gwesteion
16-Ionawr-24 Gwerthu i Gogyddion a Bwytai, gyda’r Alfred Russel Wallace ac un arall i’w gadarnhau
19-Maw-24 Gwerthu i Siopau Fferm a Llefydd Manwerthu eraill, siaradwyr i’w cadarnhau
21-Mai-24 Gwerthu’n Uniongyrchol pt. 1: Marchnadoedd, siaradwyr i’w cadarnhau
16-Gorff-24 Gwerthu’n Uniongyrchol pt. 2: Siopau Ar-lein a Chynlluniau Bocsys, siaradwyr i’w cadarnhau
17-Medi-24 Defnyddio Cynnyrch Lleol a Thymhorol mewn Tafarndai neu Gaffis, siaradwyr i’w cadarnhau
19-Tach-24 Noson Blasu Cyhoeddus
21-Ionawr-25 i’w gadarnhau
18-Maw-25 i’w gadarnhau
Mae’r prosiect yn cael ei gynnal gan Gyngor Sir Fynwy gyda chefnogaeth Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy. Ariennir llawer o’r gwaith gan Lywodraeth y DU drwy’r Gronfa Ffyniant Gyffredin / y Gronfa Ffyniant Bro.




