Sue yn Nant y Bedd

Mae Sue yn troi drosodd haen uchaf ei chompost, sy'n caniatáu digon o ocsigen i'r domen heb straenio'r corff.

 

I gael bwyd da yn eich bywyd mae angen pridd da. Mae’n gylch bywyd sy’n rhoi ein lles wrth ei galon a phleser pur yw bod yn rhan o’r broses.  Mae’r hyrwyddwr compostio a’r addysgwraig, Sue Mabberley, wedi bod yn ymwybodol o’r pleser yma ers 50 mlynedd – ers iddi gychwyn compostio:

“Mae’n rhywbeth na allwch ddianc oddi wrtho.  Pan fyddwch chi’n dechrau gweld yr holl wastraff, sbwriel, yr holl stwff brwnt sy’n dod allan o’r gegin, a’r holl doriadau glaswellt drewllyd yna, yn cael eu trosi, mae’n anhygoel. Rwy’n cofio rhywun yn dweud wrthyf unwaith fod arogl llawr y goedwig arno.  Mae’n stwff blasus, hyfryd.”

Wrth eistedd gyda Sue yn ei hystafell ardd yn Nant y Bedd, yr hyn sy’n dod yn fwyaf amlwg yw gwerth ein gwastraff bwyd. Un o fanteision uniongyrchol dal gafael ar y gwastraff ffrwythau a llysiau heb eu coginio yr ydym yn ei gynhyrchu, ynghyd ag unrhyw wastraff gardd a allai fod gennym, yw ein bod yn osgoi effeithiau ariannol ac amgylcheddol ei gludo i rywle arall. Pan fyddwn yn troi ein gwastraff yn ddeunydd organig mae’n bwydo’r pridd, yn cadw carbon allan o’r atmosffer ac yn dal dŵr, gan atal llifogydd. Yna, yn lle prynu compost neu ddefnyddio gwrtaith niweidiol, mae pob un ohonom yn gallu maethu ein pridd am ddim: “Mae yno i fwydo’ch llysiau. Felly rydych chi’n cael y buddion, y maeth o’r deunydd o’ch gardd eich hun.”

Mae’n hawdd i bob un ohonom wneud rhyw fath o gompostio, beth bynnag fo maint ein gofod awyr agored neu ofod ein ffenestri, a faint bynnag o sgiliau ac egni sydd gennym. Mae gan Sue ambell i awgrym defnyddiol a allai helpu unrhyw un i fynd ati i gompostio.

Torri a Gollwng

Mae’r dull torri a gollwng yn golygu torri planhigion yn ôl neu gael gwared ar blanhigion sydd wedi marw ac yna ollwng y toriadau i’r pridd a’u gadael yno. Mae’r dull hwn yn ail greu’r hyn y mae natur yn ei wneud drwy ganiatáu i’r planhigion ddarparu ar gyfer eu ffyniant yn y dyfodol. Gellir torri’r deunydd planhigion i gyflymu’r broses o ddadelfennu.

Llwydni Dail

Gellir casglu dail yr hydref sy’n disgyn o goed collddail a’u storio mewn rhywbeth mor syml â bag bin gyda thyllau ynddo. Ar ôl dwy flynedd bydd y compost yn barod ac yn arbennig o dda ar gyfer hau hadau ac ail botio.

Abwydfa

Mae abwydfeydd yn gweithio’n dda ar gyfer compostio ar raddfa fechan a gellir eu storio y tu mewn neu ar falconi os nad oes gennych ardd. Maent yn arbennig o dda ar gyfer compostio llysiau a ffrwythau, a gellir ychwanegu ychydig bach o wastraff gardd atynt.

Pentyrrau Compost sy’n Sefyll Ar eu Pen eu Hunain

Nid oes angen i chi adeiladu strwythur ar gyfer eich compost. Gallwch greu pentwr sy’n sefyll ar ei ben ei hun, efallai ei osod rhwng dau wely, a’i orchuddio â hen garped neu TopTex. Mae Sue yn sôn wrth ei myfyrwyr am resi compost, sy’n cael eu pentyrru ar y ddaear yn eu hyd (meddyliwch am Toblerone) gydag un haen ar ben y llall – deunydd brown fel hen wellt a chardfwrdd am yn ail gyda deunyddiau gwyrdd megis toriadau gwair a gweddillion eich llysiau.

Troi’r Haen Uchaf

Os penderfynwch adeiladu blwch compost neu fin, gallwch osgoi troi’r domen gyfan, gan fod hyn yn rhoi straen ar eich corff. Yn lle hynny, gallwch droi haen uchaf y compost yn unig tra’n cymysgu’r deunyddiau newydd i mewn iddo. Mae hyn yn gadael digon o ocsigen i mewn i’r domen er mwyn creu amodau da ar gyfer treulio aerobig.

Dillad gwely

Yn ogystal â sicrhau fod aer yn yn mynd i mewn i’ch compost, mae’n bwysig cadw gwres i mewn a chadw glaw allan.  Mae Sue yn gorchuddio ei phentwr compost gyda gwlân dafad, y mae’n ei lapio mewn deunydd gwrth-ddŵr. Gallwch hefyd ddefnyddio hen duvets a gobenyddion. Cadwch nhw’n sych os gallwch chi oherwydd maent yn drwm iawn pan maent yn wlyb.

Dal ati i ddefnyddio eich Eich Cadi Bwyd Cyngor 

Gall unrhyw wastraff bwyd wedi’i goginio, cig a chynnyrch llaeth fynd i’ch cadi bwyd. Mae’r gwastraff hwn yn cael ei gludo i Waith Treulio Anaerobig Pen-y-bont ar Ogwr a’i droi’n drydan.

I’r rhai sydd eisiau dysgu mwy am gompostio, mae Sue wedi creu canllaw fideo ar wneud compost yma. Bydd Sue hefyd yn cynnig teithiau compost dwy awr y flwyddyn nesaf. Gellir archebu lle trwy wefan Nant y Bedd. Llyfr gwych i’w ddarllen ar gompostio yw ‘Organic Gardening’ gan Lawrence D. Hill. Argymhellir hefyd bamffled Garden Organic ‘Composting for Gardeners’.