Yr Hyn a Wnawn

Y Bartneriaeth

Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn gydweithrediad sirol o bobl a sefydliadau o bob cefndir sy’n meddwl bod bwyd yn werth ei gymryd o ddifrif. Gyda’n gilydd, rydym yn gweithio i greu system fwyd ffyniannus, foesegol a chynaliadwy o fewn y sir a thu hwnt.

Rydym yn cynnal prosiectau, yn ceisio ac yn dosbarthu cyllid, yn cysylltu pobl â’i gilydd, ac yn cynghori a chefnogi unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella ein system fwyd i ledaenu llawenydd a chariad at fwyd da.

Ar lefel polisi a strategaeth, mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn bartner cyflawni strategol ar gyfer Amcanion Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, a chyfeirir atom yng Nghynllun Cymunedol a Chorfforaethol Cyngor Sir Fynwy. Gan adlewyrchu ein lleoliad daearyddol, rydym hefyd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaethau bwyd trawsffiniol i ategu gweithgareddau Partneriaeth y Gororau Ymlaen sy’n cael ei datblygu.

Mae Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy yn ddiolchgar i gael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Lleoedd Bwyd Cynaliadwy.

Meysydd o arbenigedd

  • Partneriaeth a Chydweithio

  • Gweledigaeth a Chynllun Gweithredu Bwyd

  • Ymwybyddiaeth ac Ymgysylltu

  • Mynd i’r Afael â Thlodi Bwyd

  • Cefnogi Busnes Bwyd Da

  • Caffael Bwyd Da

  • Trawsnewid Cadwyni Cyflenwi Lleol

  • Bwyd sy’n Gyfeillgar i’r Hinsawdd a Natur