
Angharad Underwood
Angharad Underwood
The Cookalong Clwb
Dywedwch wrthym am yr hyn yr ydych yn ei wneud.
Angharad Underwood wyf i a phleser o’r mwyaf yw rhedeg y Cookalong Clwb gyda fy merch, Pip. Rydym yn grymuso plant gyda hyder yn y gegin, lleihau gwastraff bwyd a gwneud y mwyaf o flas bwyd, gweithio gydag ysgolion, grwpiau, athrawon ac arweinwyr grwpiau, rhannu technegau a ryseitiau syml.
Sut allwn ni ddod o hyd i fwy o wybodaeth amdanoch chi?
Rydym ar Facebook – TheCookalongClwb1 a gallwch e-bostio hello@thecookalongclwb.co.uk
Sut wnaeth eich diddordeb mewn bwyd gychwyn?
Rwy’n ferch i ffermwr; rwyf wastad wedi coginio ac rwy’n caru cynnyrch tymhorol. Mae rhedeg The Preservation Society a chael y mwyaf allan o gynhwysion yn bwysig iawn i mi. Ac mae hyn yn treiddio i’r plant; mae annog a grymuso plant gyda bwyd wir yn newid bywydau . Os gallant wneud saws tomato syml allan o dun o domatos ac ychydig o halen a phupur maent ar eu hennill. Byddant yn deall blasau a pha mor syml yw bwyd da.
Pe gallech newid un peth am y system fwyd, beth fyddai hynny?
Rwy’n treulio’r rhan fwyaf o’m amser yn rhannu fy sgiliau gydag ysgolion cynradd. Does dim bwyd na choginio ar y cwricwlwm ac rwy’n credu’n gryf, pe byddai plant yn dysgu am arian a bwyd o Ddosbarth Derbyn, byddent yn barod am fywyd.
Beth yw eich hoff rysáit?
Fy hoff rysáit yr ydym bob amser yn ei wneud gyda The Cookalong Clwb yw cawl nwdl syml. Mae’n rysáit mor rhwydd a chaiff ei wneud gyda’r holl fanion sydd dros ben yn yr oergell. Dyma ddolen i’n ryseitiau ar YouTube. Gallwch hefyd wneud pot nwdls drwy ddefnyddio nwdls cyflym neu unai ddim cig neu gig wedi’i goginio’n barod.
Pa hoff fwydydd y byddem yn dod o hyd iddynt yn eich cegin ar hyn o bryd?
Ddoe fe redom ddosbarth coginio Thai ar gyfer plant gyda Thai Zabb by Ging ac mae fy nghegin yn dal yn llawn aroglau sinsir, garlleg, chili, leim a basil Thai – paradwys!
Pa lyfr/gwefan/neu adnodd arall sy’n ymwneud â bwyd y byddech yn ei argymell?
Fy llyfr ryseitiau cyntaf oedd The Dairy Book of Home Cookery. Rwy’n credu iddo gael ei ddosbarthu gyda’r dyn llaeth, ond gofalais yn dyner amdano ac mae dal gen i heddiw. Er, mae’n rhaid i mi gyfaddef mai o Google y mae’r rhan fwyaf o fy ryseitiau’n dod nawr.
Dywedwch wrthym am sefydliad neu berson sy’n gweithio gyda bwyd yn Sir Fynwy sydd wedi eich ysbrydoli.
Rwy’n gweithio gyda Nicky James o Maint Cymru ar brosiect prydau ysgol sy’n rhydd o ddatgoedwigo. Mae hi’n anhygoel! Mae gweithio gyda hi’n gymaint o hwyl, ond hefyd mae’r wybodaeth y mae hi’n ei roi i blant ysgol am darddiad eu bwyd a’r effaith y mae hynny’n ei gael ar y byd mor bwerus. Mae Trefynwy’n ceisio dod y Dref sy’n Rhydd o Ddatgoedwigo gyntaf yn y byd diolch i waith caled ac angerdd anhygoel Nicky.




