

Chloé Newcomb Hodgetts
Gourmet Gatherings
Sut wnaethoch chi ddechrau ymhél gyda bwyd?
Rwyf wedi bod yn farus erioed, a’m gair cyntaf oedd ‘mwy’ ac rwyf wedi bod yn ffodus i deithio i bedwar ban byd er mwyn blasu bwydydd gwahanol ers hynny. Yn y gorffennol, rwyf wedi bod yn berchen ar dai bwyta a bariau mewn gwledydd tramor. Erbyn hyn, rwyf wedi ymgartrefu yn Sir Fynwy, ac mae twrio am fwyd yn cyfuno fy hoff bethau: bwyd a diod a natur!
Beth fyddech chi yn newid am y system fwyd?
Y ffordd y mae bwyd yn cael ei ddosbarthu. Er enghraifft, yn fy ardal leol, mae yna goed perllan gwyllt a chymunedol sydd yn cynnwys cyfoeth o ffrwythau fel afalau, ceirios ac eirin, ac maent yn disgyn ac yn pydru gan nad oes neb yn eu casglu.
Beth yw eich hoff rysáit?
Rwy’n datblygu ryseitiau newydd ar gyfer fy ngwesteion ‘Forage & Feast’, sydd yn cael eu hysbrydoli gan y tymhorau. Fy hoff rysáit diweddar oedd gweini terîn cwningen gwyllt a lleol a addaswyd o’r rysáit canlynol a oedd yn cynnwys perlysiau a sbeisys gwyllt fel pupur hadau Alexander. Roedd yn hyfryd ac rwy’n ysu am y pryd bwyd hwn yn aml!
Pa rai o’ch hoff fwydydd y byddem yn eu gweld yn eich cegin ar o bryd?
Gan ei fod yn dymor y madarch, mae’r dysychwr yn gweithio ddydd a nos ac mae gen i jariau yn llawn o fadarch hyfryd sydd wedi sychu fel Porcini, Chanterelles, Hedgehogs, Cauliflower Fungus, Oysters a llawer iawn mwy! Mae fy mhantri yn llawn o frigau fel Mugwort, llysiau blas sydd ond yn medru cael eu casglu nawr, pan fydd yr hadau wedi sychu ar y planhigyn, fel bod modd eu storio a’u defnyddio’r drwy’r flwyddyn. Dyma fy hoff un ac mae’n cynnig y blas Canolforol o lafant, saets, rhos a theim! Nid wyf yn prynu salad gan fod yr hyn sydd ar gael yn wyllt mor ddigonol, ac felly mae fy oergell yn llawn drwy’r amser o ddail blasus a maethlon sydd yn dod o’r llwyni, dolydd a morfa heli yr aber.
Enwch un mudiad neu berson sydd wedi ysbrydoli eich taith fwyd?
Roeddwn yn ffodus iawn fy mod wedi cael fy nghynorthwyo gan Henry Ashby, a fu yn Faer ar Gas-gwent rhai blynyddoedd yn ôl. Roedd Henry yn holl wybodus am dwrio am fwyd. Roedd yn fentor anhygoel ar gyfer bwyd gwyllt a daeth yn Dad Bedydd answyddogol arnaf ar gyfer twrio bwyd. Pe na bai wedi meithrin fy angerdd am fwyd gwyllt, ni fyddem yma heddiw. Felly, byddaf yn fythol ddiolchgar am y wybodaeth yr oedd wedi rhannu gyda mi tan iddo farw cyn ei amser. Mae hiraeth a choffa da amdano.




