Gwirfoddolwyr Cinio i'r Bechgyn

  • I gael gwybod mwy am Ginio i’r Bechgyn, Banc Bwyd Cas-gwent, neu’r Bridge Church, e-bostiwch communitykitchen@thebridgechurchonline; neu galwch heibio ar amser cinio dydd Iau yn Uned 1A Critchcraft Buildings, Bulwark, Cas-gwent, NP16 5QZ

 

Yn 2023 cynhaliodd Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy gynllun grantiau cymunedol sy’n agored i sefydliadau’r trydydd sector, grwpiau cymunedol a mentrau cymdeithasol sy’n cyfrannu at fudiad bwyd da Sir Fynwy. Yn y gyfres hon o erthyglau, rydym yn ymweld â rhai o’r ymgeiswyr llwyddiannus i ddarganfod sut y gwnaethant ddefnyddio’u grantiau a beth sy’n digwydd nawr. Heddiw rydyn ni gyda Bridge Church yng Nghas-gwent ar gyfer eu Cinio i’r Bechgyn.

Mae’r Cinio i’r Bechgyn yn rhedeg rhwng 12:00 a 2:00pm bob dydd Iau yn Bridge Church yn Bulwark, Cas-gwent. Gall unrhyw un gerdded i mewn am ginio poeth am ddim a sgwrs gyda’r gwirfoddolwyr a’r dynion eraill sydd wedi galw heibio. Pan gyrhaeddon ni roedd tua 10 dyn o bob oed yn mwynhau pryd arbennig o gŵn poeth gyda sglodion, winwns a cholslô. Ar ddiwrnodau eraill efallai y bydd ganddyn nhw gawl neu gyri – ac mae tun o ffa pobi neu gylchoedd sbageti o gwmpas bob tro os oes rhywun yn ffansio rhywbeth ychydig yn ysgafnach. Mae’r ystafell yn gynnes ac yn gyfeillgar, er gwaethaf y diwrnod oer y tu allan. Mae Rachel, sy’n rhedeg Cinio i’r Bechgyn, yn ein croesawu gyda phaned o de. Mae hi’n sionc ac yn fywiog, yn gwisgo jîns a siwmper gyfforddus, gydag ewinedd bysedd melyn llachar. Wrth i ni gael ein paned, mae’n dweud wrthym am sut y dechreuodd y prosiect.

Mae’r Bridge Church hefyd yn gartref i Fanc Bwyd Cas-gwent, ac wrth i gyfyngiadau Covid lacio roedd y gwirfoddolwyr yn teimlo bod yn rhaid iddynt helpu i adeiladu cymuned fwyd gymdeithiol i bobl Bulwark a Thornwell. Mae Rachel yn disgrifio cerdded y strydoedd yn aros am ysbrydoliaeth i ddod a dweud wrthi beth ddylen nhw ei wneud. Gwelodd lawer o ddynion ar eu pennau eu hunain wrth iddi gerdded, ac roedd llawer ohonynt yn ymddangos i fod o oedran gweithio ond allan yn ystod y dydd. Sylwodd hi hefyd fod y gymuned eisoes yn cynnig cryn dipyn o gefnogaeth i fenywod, rhieni, a phobl hŷn – ond roedd dynion fel petaent yn cael eu gadael allan. Roedd hyn yn cyd-fynd â data cenedlaethol a oedd yn awgrymu bod gwasanaethau dynion yn cael eu torri, a oedd yn effeithio ar les dynion mewn pob math o ffyrdd; ar yr un pryd, roedd Banc Bwyd Cas-gwent yn gweld niferoedd cynyddol o ddynion sengl yn dod trwy eu drysau.

Felly cafodd Rachel ei hysbrydoliaeth: beth am adeiladu cymuned leol yn arbennig i ddynion? Amgylchedd cyfeillgar, croesawgar lle gall dynion cael ychydig o amser i’w hunain, cael bwyd, cwrdd â phobl, cael sgwrs gyda ffrindiau, a theimlo’n rhan o rywbeth? A dyna sut dechreuodd Cinio i’r Bechgyn. Ers iddo ddechrau yn 2022 mae wedi mynd o nerth i nerth: erbyn hyn mae tua 14 o wirfoddolwyr, gyda rhai ohonynt nawr yn cymryd rhan ar ôl mynd i mewn i fwyta cinio eu hunain. Mae Rachel a’i thîm hefyd yn cysylltu â sefydliadau eraill sy’n cynnig cyngor cyfrinachol ar faterion anodd fel hawlio budd-daliadau, rheoli dyled neu chwilio am swydd. Mae rhywun wrth law bron bob amser mewn sesiwn Cinio i’r Bechgyn.

Beth wnaeth Cinio i’r Bechgyn gyda’u grant? Wel, yn gyntaf roedd ganddyn nhw ychydig o faneri a thaflenni wedi’u hargraffu i helpu i ddweud wrth bobl am Ginio i’r Bechgyn. Mae’n amlwg bod y rhain wedi gweithio’n dda gan fod wynebau newydd wedi dod i mewn gan ddweud eu bod wedi gweld y cyhoeddusrwydd newydd. Prynodd y gwirfoddolwyr hefyd offer gwell, a pheiriant labelu arbennig. Mae’r peiriant labeli’n golygu eu bod yn gallu rhoi bwyd dros ben i bobl fynd adref ag ef – mae’n nodi’r alergenau, a’r dyddiad defnyddio. Mae hyn yn hanfodol i unrhyw un sy’n rhoi bwyd i bobl fynd ag ef adref, gan ei fod yn helpu i gadw pawb yn ddiogel. Mae gan yr eglwys sgôr hylendid bwyd pum seren, ac maent yn amlwg yn cymryd eu cyfrifoldebau o ddifrif.

Wrth sgwrsio gyda’r gwirfoddolwyr, mae’n amlwg eu bod yn caru’r hyn maen nhw’n ei wneud. Fel y dywedodd Jan, gwirfoddolwr:

“Mae bob amser yn fwy na bwyd yn unig.”

Mae Cinio i’r Bechgyn yn golygu bod yn rhan o gymuned a rhoi help llaw, fel cyfnewid am adegau pan fo pobl eraill wedi rhoi help llaw i chi. Mae angen hynny arnon ni gyd weithiau. Wrth i ni adael, roedd eu hymroddiad tawel a’u gwasanaeth i’w cymuned wedi cael argraff fawr arnom. Fel yr ysgrifennodd yr awdur George Eliot yn ei nofel fawr Middlemarch:

“the growing good of the world is partly dependent on unhistoric acts; and that things are not so ill with you and me as they might have been, is half-owing to the number who lived faithfully a hidden life.”