
Mae rhyng-gnydau yn helpu gadw’r pridd wedi ei orchuddio. Yma caiff meillion ei hau o dan cnwd ifanc o rawn.

Yn y prosiect hwn mae tri ffermwr o Sir Fynwy yn cael eu mentora ar sut i drosi eu tir i amaethyddiaeth adfywiol – ffordd o reoli’r tir sy’n canolbwyntio ar iechyd y pridd a defnyddio prosesau naturiol i reoli plâu a chlefydau a thyfu cnydau iach. Bydd pob ffermwr yn derbyn deuddeg mis o fentora gan Ben Taylor-Davies (Regen Ben), arbenigwr byd ar amaethyddiaeth adfywiol sy’n ffermio ychydig dros y ffin yn Swydd Henffordd. Gyda’i gilydd, bydd Ben a’r ffermwyr sy’n cymryd rhan yn archwilio cyfleoedd i integreiddio egwyddorion adfywiol i waith y fferm i leihau dibyniaeth ar fewnbynnau artiffisial a phorthiant sydd wedi’i fewnforio, a chynyddu gwydnwch ariannol ac amgylcheddol y fferm.
Mae sawl barn wahanol am yr hyn y mae ‘amaethyddiaeth adfywiol’ yn ei olygu mewn gwirionedd, ond un o’r rhai mwyaf cyffredin yw’r pum ‘egwyddor graidd’:
- cadwch y pridd dan orchudd (i leihau erydiad a chywasgiad)
- tarfwch cyn lleied â phosibl ar y pridd (i osgoi niweidio strwythur y pridd ac organebau byw ynddo)
- cadwch wreiddiau byw yn y pridd (i wella strwythur y pridd a chynnal yr organebau byw sydd ynddo)
- tyfwch amrywiaeth eang o gnydau (mae pob cnwd yn rhyngweithio’n wahanol â’r pridd, gan roi a chymryd mewn gwahanol ffyrdd)
- integreiddiwch anifeiliaid i’r system (datblygodd ein priddoedd a’n planhigion gydag anifeiliaid yn pori, sathru a thail, ac felly mae anifeiliaid yn rhan o system naturiol gytbwys)
Mae’r cynllun mentora ffermio adfywiol yn cael ei gyflwyno gan yr arbenigwr amaethyddiaeth adfywiol, Ben Taylor Davies, a elwir hefyd yn Regen Ben, mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Bwyd Sir Fynwy, Maint Cymru, ACE Mynwy a Thirwedd Genedlaethol Dyffryn Gwy.
Gellir dod o hyd i grŵp trafod ‘Talk Farm Regen Monmouthshire’ ar Facebook. Mae cyfres o ddigwyddiadau ar y gweill ar gyfer aelodau’r grŵp. Roedd y digwyddiad cyntaf yn gyflwyniad i ffermio adfywiol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2023. Fe’i cefnogir gan Gyngor Sir Fynwy drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.




