Mae FFAIR FWYD Y GWANWYN newydd sbon yn dod i’r Fenni a byddem wrth ein bodd yn eich gweld chi yno! MYNEDIAD AM DDIM. Lleoliad: Priordy’r Santes Fair ac Ysgubor y Degwm NP7 5ND.

Prynwch yn lleol. Siopwch yn gynaliadwy. Dewch i ddweud helo wrth y tyfwyr a’r cynhyrchwyr gorau yn/o amgylch Sir Fynwy (25 o arddangoswyr). Siopwch am eich prif fwydydd. Dewch i roi cynnig ar bethau. Cofrestrwch ar gyfer cynllun bocsys bwyd. Mwynhewch gerddoriaeth fyw a sgyrsiau. Bydd gweithgareddau plant hefyd. Yn ogystal â grwpiau lleol yn rhannu eu gwaith, gan greu system fwyd sy’n decach, yn fwy cynaliadwy ac iach yn y sir. Mae’r digwyddiad hwn yn bartneriaeth ar y cyd rhwng Gŵyl Fwyd y Fenni a Chyngor Sir Fynwy. Ariennir gan Raglen Gwydnwch Bwyd Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Darllenwch fwy yn www.abergavennyfoodfestival.com/spring-food-fair-sat-9-march/