Tyfu Cymunedau Cynaliadwy
Ym mis Mai 2023, cynhaliodd Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy dri digwyddiad tyfu cymunedol ar draws y sir, sef yng Nghas-gwent, Brynbuga a Threfynwy. Y nod oedd cysylltu ac ysbrydoli cymunedau i ddatblygu economïau cylchol, mannau tyfu a rennir, a lleihau gwastraff bwyd a gwyrdd.
Wrth galon pob digwyddiad, roedd sgwrs neu arddangosfa gan rywun blaenllaw o fudiad cynaliadwyedd Sir Fynwy: rhoddodd Arthur o The Crafty Pickle Co. arddangosfa mewn gwneud sauerkraut a kimchi i gadw llysiau tymhorol a hybu iechyd perfedd; cyflwynodd Cherry Taylor o’r cwmni salad Veg Out egwyddorion garddio No Dig; a bu Sue Mabberley o ardd Nant y Bedd yn sôn am ffyrdd diddorol o dyfu llysiau. Roedd y sgyrsiau hyn yn cynnig cyfleoedd i rannu arferion gorau ac addysgu ffyrdd cynaliadwy o dyfu, paratoi a chadw bwyd, a chynnal iechyd a strwythur y pridd.
Cefnogwyd y digwyddiadau gan lawer o bartneriaid, a roddodd o’u hamser yn hael ac yn amyneddgar, gan sgwrsio ag aelodau’r gymuned am faterion pwysig megis plaladdwyr a gwrtaith, lleihau gwastraff bwyd, a sut i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol.
Mynychodd cynhyrchwyr lleol y digwyddiad, gan ddod â sudd afal, seidr, jamiau, asbaragws, mêl, gwehyddu helyg a mwy. Daeth Cynghorau Tref, meithrinfeydd a grwpiau lleol hefyd i gefnogi, gan edrych i ddysgu a chysylltu ag eraill yn eu cymunedau.
Bu athrawon a disgyblion anhygoel yr ysgolion lleol yn helpu gyda lluniaeth. Diolch yn fawr i Ysgol Gynradd Overmonnow, Ysgol Gynradd Cas-gwent ac Ysgol Gynradd Brynbuga am eu gwaith caled, gan arddangos potensial eu hysgolion ar gyfer cyfeillgarwch rhwng cenedlaethau, a sut mae’r ysgolion yn estyn allan i fod yn wirioneddol gymunedol a datblygu ein plant fel dinasyddion ystyriol y dyfodol.
Rhannodd y plant eu hawydd i fod yn weithgar yn eu cymunedau, ac i ddysgu mwy am dyfu bwyd a gofalu am yr amgylchedd i helpu i fynd i’r afael â’r heriau enfawr o gyfyngu ar newid yn yr hinsawdd a gwrthdroi dirywiad bioamrywiaeth.
Roedd yn amlwg o’r digwyddiadau bod Sir Fynwy wedi’i bendithio ag amrywiaeth enfawr o bobl fedrus, ymroddedig ac angerddol o bob oed ac o bob math o gefndiroedd – a bod bwyd, garddio, a chynaliadwyedd yn bwysig iawn i’n sir. Mae rhai trefi a phentrefi nad oedd yn cynnal digwyddiadau y tro hwn wedi cynnig eu hunain fel lleoliadau ar gyfer y dyfodol (gwyliwch y gofod hwn!), ac mae PBSF hefyd wedi derbyn ceisiadau am gymorth pellach gyda garddio a thyfu, a deall cyfleoedd i ddefnyddio mathau lleol a phlannu tymhorol. Rydym wedi ystyried hyn, a byddwn yn ei gadw mewn cof wrth inni fynd ar drywydd ein nod i ymateb i’r gymuned a gweithio gydag eraill i wella cynaliadwyedd Sir Fynwy, rhoi mynediad i bobl at dyfu cymunedol, bwyd lleol a maethlon, ac adeiladu rhwydweithiau a phartneriaethau a fydd yn ein gwneud ni i gyd yn gryfach wrth symud ymlaen gyda’n gilydd.




