
Beverly Reed

Sefydlwyd y farchnad ffermwyr gyntaf yn y DU yng Nghaerfaddon yn 1997. Roedd marchnadoedd bwyd yn bodoli cyn hynny, wrth gwrs. Ond roedd y syniad o farchnad ffermwyr yn un unigryw; sef y byddai ffermwyr mewn cyswllt uniongyrchol gyda chwsmeriaid eu hardal. Stephen Shearman oedd yr entrepreneur a ddaeth â’r cysyniad i Sir Fynwy ar ôl gweld llwyddiannau prototeip Caerfaddon. Dechreuodd gyda chynulliad bychan yn Neuadd Bentref Llanisien yn 1998 ac aeth ymlaen i redeg marchnadoedd rheolaidd ym Mrynbuga a’r Fenni. Mae’r ddwy farchnad yn bodoli heddiw ac wedi cadw llawer o’u cwsmeriaid gwreiddiol.
Wrth sefydlu marchnad, cafodd Stephen ei ysgogi gan ddyhead i fyw bywyd mwy cynaliadwy. Yn barod roedd wedi sefydlu cydweithrediaeth yn Llundain a oedd yn gwerthu bwyd organig. Dechreuodd ei berthynas â bwyd ‘da’ yn gynnar iawn pan, yn fachgen ifanc yn tyfu i fyny yng Nghernyw, roedd Stephen yn mwynhau pasteiod cartref ei fodryb a’r bara traddodiadol y byddai ei fam yn mynd i drafferth mawr i ddod o hyd iddo. ‘Roedd bwyd yn hud,’ meddai.
Roedd marchnadoedd ffermwyr yn cael eu sefydlu yn y DU yn erbyn cefndir o drychinebau amaethyddol; y bygythiad y byddai Salmonela’n effeithio ar gywion ieir yn y 1980au, ac yna’r argyfwng BSE, a gyrhaeddodd ei frig yn 1992. Mae digon o reswm i edrych i farchnadoedd ffermwyr am sicrwydd bwyd. Fel y dywed Stephen:
“Mae cyswllt uniongyrchol rhwng cynhyrchwyr bwyd a chwsmeriaid yn caniatáu ar gyfer datblygu ymddiriedaeth.”
Roedd yn amlwg bod angen y mecanwaith hwnnw ar gyfer meithrin ymddiriedaeth yn ystod ac ar ôl yr argyfyngau yn y diwydiannau cig yn ystod y 1980au a’r 1990au. Heddiw, mewn oes o ddiwydiannu a chwildro technolegol, mae angen o hyd i ail-gysylltu gyda ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd, sef y rheiny y gwyddom y gallwn gael bwyd diogel, ffres nad yw wedi ei brosesu fawr ddim ganddynt.
Dywed Stephen fod ei deulu wedi byw yn gymharol gyfforddus yn ystod gaeaf 1947 am fod ganddynt fynediad at fwyd lleol a bwyd a oedd yn cael ei dyfu yn y cartref. Yn fwy diweddar, roedd y cynhyrchwyr ym marchnadoedd ffermwyr Sir Fynwy yn gallu cynnig yr un system fwyd leol, wydn i’w cymunedau yn ystod pandemig COVID 19.
Mae Beverly Reed yn wneuthurwr patisserie a siocled sydd wedi bod yn cyflenwi marchnadoedd Brynbuga a’r Fenni ers 2003. Mae’n disgrifio’r ffordd y mae modd i gynhyrchwyr, ar y cyd, addasu:
“Newidiodd Covid natur perthynas pawb gyda’r cwsmeriaid. Byddwn yn codi am 3 y bore ac yn pobi ac yna byddwn yn danfon nwyddau ac roedd hynny’n anodd ar adegau. Ond roedd cael y rhyngweithio cymdeithasol yn dda i mi a’r cwsmeriaid. Roedd yna gyfnewidiad tosturiol a gofalgar yno na fyddech chi’n ei gael mewn archfarchnad.”
Mae Beverly yn pwysleisio manteision y berthynas hirsefydlog. Daw cwsmeriaid rheolaidd y farchnad i ddeall natur dymhorol y cynnyrch, a sut y gall digwyddiadau annisgwyl effeithio ar gyflenwad bwyd, megis pan arweiniodd ymosodiad gan lwynogod ar fferm un cynhyrchydd at brinder cywion ieir am sawl wythnos. Rhoddir defnyddwyr mewn cysylltiad uniongyrchol â’r hyn sy’n digwydd yn y caeau.
Diolch i weledigaeth Stephen a dyfalbarhad y cynhyrchwyr, mae’r marchnadoedd heddiw yn llawn pasteiod wedi’u pobi’n lleol, croissants, cawsiau a chigoedd. Mae gan farchnad ffermwyr Brynbuga ffrwythau a llysiau ffres a gyflenwir gan Paul’s Organic Veg, yn ogystal â bara, wyau, mêl a jamiau. Daw cynhyrchwyr gwadd yno hefyd. Yn y gorffennol, maen nhw wedi dod gan werthu llu o ddanteithion, o fadarch, i lysiau gwyrdd micro i gacennau cri.
Yr her i Beverly ac eraill yw cynnal incwm cynaliadwy tra’n annog cwsmeriaid i fuddsoddi yn eu cynnyrch: ‘Mae’n ymwneud â hirhoedledd. Rydych chi’n gwneud yn dda os byddwch chi’n dal ati ac yn cynyddu eich dilynwyr.’ Fodd bynnag, i gynhyrchwyr fel Beverly, mae’n werth aros: ‘Dyma lle mae fy angerdd. Mae’n ymwneud â gweini bwyd o ansawdd da i’m cwsmeriaid am brisiau fforddiadwy.’
Nid yw Stephen yn ymwneud â’r farchnad bellach. Mae wedi cymryd cam yn ôl a’r dyddiau hyn mae’n troi ei sylw at dyfu bwyd yn ei ardd ei hun. Fodd bynnag, chwe blynedd ar hugain ers y cyfarfod cyntaf hwnnw yn Neuadd Bentref Llanisien, mae’r ffermwyr, cynhyrchwyr a’u cwsmeriaid yn dal i gyfarfod: mae rhai wedi bod yn cyfarfod ac yn siarad am fwyd ers blynyddoedd lawer. Etifeddiaeth Stephen, yn fwy na dim, yw’r fforwm a greodd ar gyfer trafod beth yw bwyd ‘da’ a sut y gallwn gael gafael arno.




