Ni yw Cam a Mike, dau berson creadigol a fydd yn cynhyrchu cynnwys digidol ar gyfer Partneriaeth Bwyd Sir Fynwy am y saith mis nesaf. Sefydlwyd y Bartneriaeth Bwyd i greu a chefnogi economi bwyd yn Sir Fynwy sydd â lles a chynaliadwyedd fel yr hyn sydd yn sbarduno pob dim. Mae rhan o’r gwaith o lunio system sy’n cael ei phweru gan bobl yn cynnwys adrodd straeon a dyna lle rydyn ni’n medru helpu.

Rydym wrth ein bodd yn cyfleu’r gofal a’r tosturi sy’n bresennol tuag at unigolion, prosiectau a busnesau. Daw enw ein partneriaeth greadigol, Mwd a Tharanau (Mud and Thunder), o’r llyfr ‘Wild’, lle mae Jay Griffiths yn dweud “ni chawsom ni fel pobl ein geni ar gyfer palmentydd a grisiau symudol ond i daranau a mwd.” Rydyn ni eisiau dal gafael ar yr hyn sydd
fwyaf hanfodol am bobl yn y straeon yr ydym yn eu hadrodd. Dechreuwn y prosiect hwn drwy sylwi bod y weithred o gyfrannu at bryd o fwyd mewn rhyw ffordd ynddo’i hun yn fynegiant cyffredinol o dosturi.

Drwy gydol ein hamser gyda Phartneriaeth Bwyd Sir Fynwy, byddwn yn creu ystod eang o gynnwys, o ffilmiau byr, i bostiadau blog, i fathau eraill o gynnwys fideo, a delweddaeth. Byddwn yn archwilio sut olwg sydd ar gymunedau bwyd ar draws Sir Fynwy. Mae hynny’n cynnwys pob agwedd ar fwyd a diod, o dyfu a meithrin (meddwl am yr anifeiliaid a’r gwenyn), i goginio, rhannu, i ddosbarthu a rhoi yn ôl i’r ddaear.

Cyn hyn, roeddem wedi gweithio gyda phartneriaeth Bwyd Caerdydd i ysgogi trafodaethau ynghylch dyfodol bwyd ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Gyda’r bartneriaeth Mannau Gwyrdd Gwydn, cawsom gyfle i greu ffilm sy’n hyrwyddo gyrfaoedd mewn garddwriaeth bwyd. Felly, mae ein diddordeb mewn systemau bwyd wedi cael ei feithrin dros amser gan
lawer o sgyrsiau gyda ffermwyr ac ymgyrchwyr. A nawr ein bod ni’n cydlynu prosiect tyfu cymunedol ym Mrynbuga, y dref yr ydym wedi ymgartrefu ynddi, rydyn yn poeni’n ddiddiwedd am sut i fynd â’r bwyd o’r cae i’r fforc. Ein gobaith yw, drwy dynnu sylw at yr hyn sy’n digwydd ar draws y Sir, y gallwn helpu i symud pob un ohonom tuag at ddiwylliant bwyd mwy cyfunol.

Ein dull bob amser yw creu straeon ochr yn ochr â phobl fel y gallwn ymhelaethu ar ystod amrywiol o leisiau, yn hytrach na phennu’r naratifau ein hunain. Felly, os oes gennych chi syniadau am stori, neu os hoffech chi weithio gyda ni i gynhyrchu rhywfaint o gynnwys, yna cysylltwch â ni.